dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

TWF YN YR OESOEDD CANOL

  • Yn ystod yr Oesoedd Canol, cafodd pobl Ewrop eu hannog i fwyta pysgod gan yr Eglwys Babyddol, a ganiataodd eu bwyta yn ystod cyfnodau ymprydio. Fodd bynnag fe newidiwyd y syniadau am ymprydio yn ystod y Diwygiad, a gafodd effaith ddirywiol ar y diwydiant pysgota. Gwelwyd gostyngiad yn y nifer o longau pysgota ac yn yr arferion o bysgota mewn dwr ffres, a bu’r mentrau ffermio pysgod bron â diflannu’n llwyr.
  • Ymysg y rhesymau am ddirywiad ffermio pysgod ledled Ewrop, roedd dylanwad cynyddol pysgota ar y môr. Roedd dalfeydd ar y môr yn llawer yn fwy na’r hyn y gallai’r ffermydd pysgod eu darparu, ac felly fe wywodd y ffermydd yn eu pwysigrwydd. Fe dyfodd y galw am fathau arbennig o bysgod hallt ac fe arweiniodd hyn yn ei dro at ddatblygiad marchnadoedd bwydydd y môr ledled y byd.
  • Gyda’r twf yn y galw am fwydydd y môr, fe ddaeth pysgod hallt i fod yn ddiwydiant pwysig, ac yn un o brif allforion Prydain i Ewrop yn ail hanner y 17fed Ganrif. Fe ddaeth pysgota morwrol mor bwysig nes bod cytundebau heddwch yn aml yn nodi pa wledydd oedd â hawliau pysgota ym mha lefydd, a pha bysgod oeddent yn gallu dal. Yn wir, mae hawliau pysgota wedi aros yn bwnc dadleuol hyd heddiw.
  • Ers sawl canrif bellach, un o’r pysgod mwyaf poblogaidd i’w dal yw’r penfras (cod). Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd y Llychlynwyr a’r Basgiaid y cyntaf i ddefnyddio dulliau sychu a halltu i gadw penfras. Gyda darganfyddiad Newfoundland gan John Cabot ym 1497, fe welsant fod digonedd o benfras o gwmpas, ac fe sefydlwyd diwydiant pysgota llewyrchus. Erbyn canol y 16fed Ganrif, roedd y penfras a ddaeth o arfordir Newfoundland a New England yn cyfrif am 60% o’r holl bysgod a fwytawyd gan drigolion Ewrop.
  • Gyda thwf mewn poblogrwydd y penfras, fe deithiodd mwy a mwy o bysgotwyr Ffrainc, Prydain a Sbaen ar draws dyfroedd oer yr Iwerydd er mwyn sicrhau eu cyfran hwythau yn y cyflenwad diddiwedd hwn o fwydydd y môr. Fe ddaeth y fasnach mewn penfras i fod yn bwysig iawn gan fod y pysgod mor boblogaidd, a chyda gwelliannau technolegol fe gafodd dalfeydd enfawr o benfras bob blwyddyn. Dros y canrifoedd, roedd effaith y pysgota di-dor i’w gweld yn nirywiad y cyflenwad o benfras, ac mae’r canlyniadau yn creu trafferthion i’r diwydiant pysgota heddiw.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY