dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

MANTEISION BWYDYDD Y MÔR I IECHYD

Ers amser maith mae dynion wedi gwybod bod bwydydd y môr yn ffynhonnell gyfoethog o fitaminau, mwynau a phrotein,ac ei fod yn llesol i fwyta o leiaf dau bryd o bysgod neu gregynbysgod bob wythnos. Hefyd mae bwydydd y môr yn cyfleu saim ac olew i ni, a dim ond rhai mathau o bysgod sy’n gallu rhoi’r asid brasterog arbennig Omega 3 sydd, mae’n debyg, yn effeithiol iawn i ymdrin â thrafferthion gyda’r galon. Fe ddaeth manteision bwyta pysgod a chregynbysgod i’r amlwg sawl degawd yn ôl pan ddarganfuwyd bod rhai a oedd yn dibynnu ar bysgod yn eu hymborth (e.e. y Siapaniaid) gyda graddfa isel o farwolaeth o glefyd y galon.
  • Fe ddatgelodd ymchwil ddiweddar gan Dr Alexander Leaf a’i gyd-weithwyr yn Ysgol Feddyginiaeth Harvard fod bwyta pysgod seimllyd fel eog a thiwna (yn ffres, nid o dun) ddwywaith yr wythnos yn gallu atal trawiad y galon. Dangoson nhw fod yr olewau sydd yn y pysgod hyn yn gallu atal y patrymau afreolaidd peryglus o guriadau’r galon, sy’n gallu arwain at drawiad y galon. Fe welson nhw fod yr olewau hyn yn sicrhau rhythm rheolaidd drwy reoli’r lefelau o sodiwm a chalsiwm yn y galon.

  • Y pysgod sy’n cynnwys yr olewau Omega-3 yw:

    - herring
    - kippers
    - mecryll
    - pilchards
    - sardîns
    - eog
    - tiwna ffres
    - brithyll
    - ansiofis

  • Mae olewau pysgod hefyd yn gallu helpu i gadw’r arterïau’n rhydd o haenau o fraster. Os ydi’r rhain yn cael eu gadael, yna fe allai’r haenau hyn dyfu nes eu bod yn rhwystro’r llif o waed i’r ymennydd neu’r galon, ac felly achosi trawiad neu drawiad y galon. Gallwch leihau’r risg o’r clefydau hyn trwy fwyta mwy o bysgod seimllyd neu drwy gael capsiwlau o olew pysgod. Honnir hefyd fod bwyta pysgod seimllyd yn gallu lleddfu symptomau arthritis mewn rhai achosion.

  • Mae cregynbysgod yn naturiol yn isel mewn braster ac yn ffynhonnell dda ar gyfer llawer o fitaminau, mwynau a phrotein. Mae gan y rhan fwyaf o gregynbysgod lefel uchel o golesterol, sydd wedi peri cyhoeddusrwydd negyddol dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, y colesterol sydd yn peri gofid yw hynny a ddaw o fraster dirlawn, sy’n cael ei droi’n golesterol yn y gwaed. Mae’r colesterol sydd yn gregynbysgod yn isel ei fraster, ac felly nid yw’n achosi trafferthion yn y gwaed. Mae angen ychydig o golesterol ar ein cyrff, ac mae cregynbysgod yn darparu’r math llai niweidiol o golesterol.

  • Fel pysgod seimllyd (er nid i’r un graddau) mae cregynbysgod hefyd yn cynnwys asidau Omega-3. Yn ogystal â bod yn llesol i’r galon, mae’r fitaminau a mwynau sydd mewn cregynbysgod yn cefnogi tyfiant a chynnal y corff, yn hybu imiwnedd yn erbyn haint, yn cynorthwyo treulio carbohydrates ac yn cefnogi’r cynhyrchiad o gellau coch y gwaed.

  • Mae pysgod gwyn megis penfras, haddock, plaice, monkfish, sole ac yn y blaen yn gymharol isel eu braster ac yn ffynhonnell dda o brotein. Maent hefyd yn cynnwys fitaminau a mwynau, ac mae rhai pysgod gwyn fel penfras a haddock yn cynhyrchu ‘cod liver oil’, sydd yn ffynhonnell gyfoethog o Omega-3.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY