dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

YR OES FODERN

  • Fe ddaeth yn amlwg fod yn rhaid dod o hyd i ddulliau newydd i sicrhau bod pysgod a bwydydd y môr yn cadw’n well. Roedd o gymorth pan ddyfeisiwyd ffyrdd i roi cig a physgod mewn tuniau ar ddechrau’r 1800au, ond er mwyn cludo’r bwydydd ar draws y byd roedd yn rhaid dod o hyd i ffordd i gadw bwydydd y môr yn ffres am yn hirach. Fe ddaeth hwn yn bosibilrwydd gyda datblygiad rheweiddio mecanyddol yn y 19eg ganrif.

  • Yr Americanwyr oedd y cyntaf i sylwi’r potensial o rewi pysgod, ac yn fuan fe ddaeth yn un o’u diwydiannau pwysicaf. Ar droad y ganrif roedd yr Unol Daleithiau yn allforio eog wedi’u rhewi i Ewrop, er nad oedd y technegau rhewi cystal ac felly roedd dirywiad mewn ansawdd y bwyd.

  • Ym 1929, fe wnaeth Americanwr o’r enw Clarence Birdseye ddarganfod bod safon bwydydd y môr llawer yn well os oedd y bwydydd yn cael eu rhewi’n gyflymach. Fe ddyfeisiodd ffyrdd mecanyddol i rewi’r bwydydd yn gyflym a drawsnewidiodd y diwydiant. Erbyn hyn, roedd y llongau pysgota wedi’u mecaneiddio ac yn llawer yn fwy, gan olygu bod mwy o fwyd nag erioed yn cael ei ddal yn y môr.

  • Erbyn hyn mae’n hanfodol i gael llynges o longau pysgota, er mwyn bodloni y galw cynyddol am fwydydd y môr. Gan fod mwy o amrywiaeth ar gael, mae mwy o bobl nag o’r blaen yn bwyta bwydydd y môr. Bob blwyddyn fe ddalir oddeutu 100 miliwn o dunelli o fwydydd y môr, sy’n golygu mai hyn yw un o’r ffynonellau pwysicaf o fwyd yn y byd.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY