dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

CYNGHORIONn AM FWYDYDD Y MÔR

Prynu

Dylech brynu bob tro gan gyflenwr ag iddo enw da. Cadwch i ffwrdd o arwerthwyr sy’n gwerthu pysgod rhad o gefn car.

Dylech wastad ddewis bwydydd ffres y môr sydd wedi’u rhewi neu’u cadw ar iâ

Pan fyddwch yn siopa, dylech drefnu mai bwydydd y môr yw’r pethau olaf i chi eu dewis cyn mynd adref. Bydd hwn yn torri i lawr ar yr amser bod y bwydydd allan o’r rhewgell. Byddai’n syniad da i fynd â bocs-oer i gadw’r bwydydd yn oer pan yn teithio nôl.

Peidiwch â phrynu bwydydd y môr wedi’u rhewi os mae’r pecyn wedi’i niweidio mewn unrhyw ffordd a pheidiwch â phrynu unrhywbeth sydd wedi’i gadw uwchben y ‘llinell rhewi’ yn rhewgist y siop.

Peidiwch â phrynu pysgod na chregynbysgod wedi’u coginio os ydynt wedi’u cadw wrth ochr bwydydd y môr sydd heb eu coginio.

Os mae arwyddion o grisialau iâ ar y bwydydd sydd wedi’u rhewi, yna peidiwch â’u prynu. Mae hyn yn awgrymu bod y bwyd wedi’i gadw’n rhy hir, neu ei fod wedi dadrewi ac yna rhewi eto.

Arwyddion i edrych amdanynt pan yn prynu pysgod cyfan:

- Llygaid clir (gwnewch yn sïwr nad yw’r llygaid wedi ‘suddo’)
- Giliau coch llachar
- Dylai’r cennau fod yn gyflawn. Gwnewch yn sïwr bob pob un yna
- Dylai’r croen fod yn wlyb ac yn teimlo ychydig yn llithrig
- Dylai’r croen hefyd fod yn ddisglair ac yn sgleiniog, gyda lliw naturiol y pysgod
- Dylai’r cnawd deimlo’n gadarn a’r gynffon yn anystwyth
- Dylai’r pysgodyn arogli o hyd i wynt ffres y môr

Arwyddion i edrych amdanynt pan yn prynu ffiledi pysgod:

- Dylai’r ffiledi gael eu torri’n daclus a dylai’r cnawd fod yn gadarn
- Dylai lliw pysgod gwynion fod yn wyn lled dryloyw
- Os ydynt wedi’u pecynnu, dylai’r ffiledi gael eu pacio’n agos at ei gilydd

Arwyddion i edrych amdanynt pan yn prynu pysgod wedi’u trin gan fwg:

- Dylai’r arogl fod yn un pleserus o fwg
- Dylai golwg y pysgod fod yn sgleiniog
- Dylai’r cnawd fod yn gadarn ac nid yn ludiog

Arwyddion i edrych amdanynt pan yn prynu cregynbysgod:

- Dylai’r cregyn fod mewn un darn, heb eu torri
- Dylai cregyn gleision a wystrys fod ar gau yn dyn. Fodd bynnag, os ydi cragen las ar agor ychydig dylai gau’n syth pan yn cael ei churo’n ysgafn. Os ydi’n aros ar agor, dylech ei thaflu i ffwrdd.
- Dylai coesau cimychiaid a chrancod fod yna’n gyflawn
- Dewiswch gimychiaid, crancod a chor-gimychiaid sydd â lliw da ac sy’n teimlo’n drwm am eu maint

Cadw

Mae pysgod yn cadw am oddeutu 10 i 12 o ddiwrnodau. Yr awgrym yw i gadw pysgod ar dymheredd rhwng 0ºC â 5ºC.

Pan yn rhewi pysgod, dylech sicrhau nad yw’r tymheredd o dan ­18ºC. Ni ddylai cadw cregynbysgod wedi’u rhewi am fwy na mis, pysgod seimllyd am fwy na deufis, a physgod gwyn a physgod wedi’u trin gan fwg am fwy na thri mis. Am y canlyniadau gorau, dylech ddadrewi a defnyddio’r pysgod o fewn pythefnos o’u rhewi.

Pan yn eu pecynnu, dylech lapio bwydydd y môr yn dyn gyda cling-film gan sicrhau nad oes unrhyw awyr oddi fewn. Lapiwch eto mewn ffoil aluminium ac yna labeli’r pecyn gyda manylion y cynnwys a’r dyddiad rhewi.

Dylech dadrewi pysgod dros nos yn y rhewgell. Os oes rhaid dadrewi pysgod yn gyflym yna ddefnyddiwch ffwrn feicrodon. Cymrwch y pysgod allan pan maent dal ag ychydig o rew arnynt, ond maent wedi colli eu cadernid. Peidiwch â dadrewi’r pysgod mewn dwr, oherwydd byddwch yn colli’r maethion ac yn sbwylio’r blas a’r ansawdd. Dylech goginio bwydydd y môr yn syth ar ôl eu dadrewi.

Yn ddelfrydol dylech fwyta pysgod ffres ar y diwrnod chi’n eu prynu, ond gallwch eu cadw yn y rhewgell am hyd at 5 diwrnod wedi hynny.

Dylech lapio pysgod ffres gyda cling-film a’u cadw yn rhan oeraf y rhewgell ­ h.y. tua’r gwaelod.

Dylai pysgod wedi’u coginio sy’n barod eu bwyta gael eu cadw ar silffoedd uwchben unrhyw fwydydd amrwd yn y rhewgell er mwyn osgoi unrhyw llygru. Mae arogl a lliw pysgod sydd wedi’u trin gan fwg yn gallu croesi i ddylanwadu ar bysgod a bwydydd eraill, ac felly mae’n rhaid eu lapio’n dda a’u cadw ar wahân.

Peidiwch â gadael i fwydydd y môr amrwd ddod mewn cysylltiad â bwydydd wedi’u coginio.

Paratoi

Weithiau pan yn prynu cregyn gleision, mae ‘barf’ arnynt, ond caiff rhein eu dileu’n hawdd gan ddefnyddio cyllell finiog.

Gofalwch rhag dal y bwydydd yn ormodol a golchwch eich dwylo bob amser! Mae firysau a bacteria niweidiol yn gallu byw mewn bwydydd y môr amrwd, a bwydydd sydd heb eu coginio’n iawn, ac maent yn gallu achosi afiechydon anghyffyrddus. Y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf yw gwragedd beichiog (a’u babanod), plant ifanc a phobl hyn.

Sicrhewch bob amser bod yr offer yn lan pan yn paratoi bwydydd y môr, a golchwch yn drylwyr ar ôl ei ddefnyddio. Peidiwch byth â defnyddio’r taclau a weithiodd ar fwydydd y môr ar fwydydd eraill (e.e. y llysiau). Beth bynnag chi’n coginio, dylech sicrhau bod safonau glendid yn uchel.

Coginio

Mae pysgod yn hawdd a chyflym i’w coginio, ond gwnewch yn sïwr eu bod wedi’u coginio’n gywir.

Blaswch y pryd cyn ychwanegu halen gan fod y rhan fwyaf o fwydydd y môr yn hallt yn naturiol.

Coginiwch y pysgod fel bod y saim yn rhedeg i ffwrdd. Peidiwch â defnyddio’r saim sy’n gollwng o bysgod!

Os ydych yn marinadu bwydydd y môr yn y rhewgell, gwaredwch unrhyw marinâd sydd yn weddill ar ôl cymryd y bwydydd amrwd i ffwrdd. Os ydych eisiau defnyddio unrhyw marinâd fel dip neu fel saws, dylech ei roi i’r naill ochr cyn iddo gyffwrdd â’r bwydydd amrwd.

Os ydych yn trin pysgod â mwg yna mae’n rhaid iddynt fod yn ffres, yn lân ac yn oer. Os ydi’r pysgod heb eu cadw’n iawn neu’u trin yn ofalus, yna ni fydd y cynnyrch o safon uchel. Peidiwch â defnyddio pysgod lle mae’r cnawd wedi’i niweidio mewn unrhyw ff

ordd. Gan fod digonedd o ddwr mewn pysgod, maent yn coginio yn gyflym yn y ffwrn feicrodon, ac felly mae’n werth tan-amcangyfrif yr amser coginio.

Mae coginio pysgod ar y gril yn gallu bod yn lletchwith, ond mae’r canlyniad yn bryd blasus iawn sy’n isel ei fraster. Dylech gadw golwg fanwl ar y pysgod tra’n coginio i sicrhau mad ydynt yn cael eu gorwneud. Peidiwch â rhoi’r pysgod o dan ddarn poethaf y gril, ond yn hytrach eu coginio o dan wres cymedrol. Peidiwch â chyffwrdd â’r pysgod am y cwpl o funudau cyntaf, gan y bydd ynghlwm â’r gril. Dylech aros nes bod y suddion yn dechrau rhedeg, ac yna bydd y pysgodyn yn fwy rhydd ac yn haws i’w droi drosodd. Mae ond yn cymryd ychydig funudau i goginio bob ochr. Gallwch brynu basged wifrau sy’n gyfleus ar gyfer coginio pysgod ar y gril.

Mae coginio pysgod yn y ffwrn yn gallu eu sychu, felly rhowch haen o rywbeth arnynt er mwyn cadw’r lleithder i fewn. Fel arall, gallwch selio’r pysgodyn mewn cwdyn ffoil, gyda marinâd neu saws, neu efallai menyn a gwin gwyn i sicrhau na fydd yn mynd yn sych.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY