dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
seafood picture

BWYD Y MÔR

Rydym ni yng Nghymru yn ffodus bod gennym arfordir ar hyd ochrau gogleddol, gorllewinol a deheuol ein gwlad.

BWYD Y MÔR A CHYMRU

Mae’n ymddangos bod bwydydd y môr yn un o gyfrinachau pennaf Cymru. Wrth gwrs, mae gennym draddodiad hir o bysgota, ond weithiau mae’n ymddangos fel bod pobl y tu-allan i’n gwlad yn anwybodus o’r bwydydd a ddaw oddi ar ein harfordir. Efallai nad yw hyn yn beth drwg ­ petai gweddill y byd yn sylweddoli pa mor dda yw ein pysgod a’n cregynbysgod, yna mae’n bosibl na fyddai digon ar ôl i ni!

Mae llawer o fwytai ar hyd arfordir Cymru yn cynnig gwledd o fwydydd ffres y môr sydd wedi’u dal yn lleol. Un arbenigedd yw cregynbysgod, gan gynnwys cimwch, crancod, cregyn gleision a wystrys, ond hefyd gallwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o bysgod megis monkfish, sea bass, hake, mecryll, skate, turbot a sole. Ac uwchben hynny mae ein byrbrydau traddodiadol y môr, fel whelks, winkles ac, wrth gwrs, cocos.

Dywed bod rhai o gogyddion amlycaf Ewrop yn frwd dros ddefnyddio bwydydd y môr Cymreig. Ond er bod llawer yn cael ei allforio, peidiwch â phoeni gan fod digon ar ôl ar gyfer ni!

Dyw e ddim yn rhyfedd bod sut gymaint o bysgod y môr yn ymddangos ar fwydlenni Cymreig gan fod ein gwlad wedi’i hamgylchynu gan y môr ar dair ochr. Un ardal sydd ag enw arbennig am ei fwydydd y môr yw Ynys Môn, sy’n darparu cynhaeaf enfawr o gregyn gleision a wystrys bob blwyddyn. Pan fo tymor y cregynbysgod yn dechrau ym mis Hydref, fe gynhelir Gwyl Wystrys a Bwydydd y Môr, yng ngwesty Bae Trearddur, sy’n para am bedwar diwrnod ac sy’n denu cannoedd o bobl bob blwyddyn.

Mae wystrys wedi bod yn ffocws sylw dynion ers canrifoedd, efallai oherwydd iddynt gael yr enw ers dyddiau’r Rhufeiniaid am fod yn affrodisiaid cyfoethog! Mae rhai mathau o wystrys yn gallu darparu perlau a all fod yn werthfawr iawn ­ er go brin y cewch chi berl o unrhyw werth oddi ar arfordir Ynys Môn.

Mae’r ynys hefyd yn ennill enw da cynyddol am Halen Môn, sy’n naturiol ac yn organig. Mae’n dod yn syth o’r dyfroedd o gwmpas yr ynys a does dim byd o gwbl wedi’i ychwanegu ato. Fe werthir Halen Môn mewn delicatessens a siopau bwydydd arbennig ac mae’n dod yn fwyfwy o ffefryn i gogyddion a’r rheiny sy’n cymryd eu bwyd o ddifri. A dweud y gwir, mae Dudley yn defnyddio Halen Môn yn ddieithriad yn ei goginio!

Cliciwch ar ein hadran Cyflenwyr Bwyd Cymreig ar gyfer dolenni i gyflenwyr a chynhyrchwyr bwydydd y môr o gwmpas Cymru.

Am ragor o wybodaeth am Wyl Wystrys a Bwydydd y Môr Ynys Môn, cysylltwch â Jayne Roberts ym Menter Môn drwy ffonio 01248 725700 neu drwy e-bostio jayne@mentermon.com. Cewch fanylion hefyd ar wefan Blas o Fôn : www.menternet.org.uk/taste

Am fwy o wybodaeth am Halen Môn cysylltwch â:
Halen Môn
Brynsiencyn LL61 6TQ
Ffôn: 01248 430871
E-bost: seasalt@email.wales.com

Gallwch brynu wystrys Menai o’r unig fferm wystrys fasnachol yng Nghymru. Cysylltwch â:

Shaun Krijnen
19 Ger y Mynydd
Bangor LL57 1AG
Ffôn: 01248 361313
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY