SOSEJIS - Y CEFNDIR HANESYDDOL
Mae'r gair sosej yn dod o'r Llydaweg salsus, sy'n golygu rhywbeth sydd wedi ei halltu neu ei breserfio. Y sosej oedd un o'r bwydydd parod cyntaf a chredir mai yn Sumeria (sef yr Irac modern) a greodd hwy tua 3000CC.
Ymddangosodd sosejis yn hwyrach mewn ysgrifau hynafol Groegaidd a Rhufeinig, sy'n awgrymu eu bod yn boblogaidd â'r diwylliannau yma. Roedd gwerthwyr yn yr eiliau yn y theatrau Groegaidd a olygai y gallai'r gynulleidfa fwynhau byrbryd blasus yn ystod perfformiad. Cyfeiriodd y bardd Groegaidd, Homer, at sosejis yn ei lyfr The Odyssey hefyd.
Mae'n debyg mai'r prif reswm y crewyd y sosej oedd y ffaith nad oedd rhewgelloedd ar gael i breserfio cigoedd. Felly, drwy ychwanegu llawer o halen i unrhyw gig dros ben a'i lapio mewn casyn wedi'i wneud o berfedd yr anifail, roedd hyn yn datrys y broblem.
I'r Rhufeiniaid y mae'r diolch am gyflwyno sosejis i Brydain ond yn eirionig iawn fe waharddwyd bwyta sosejis gan yr Ymerawdwr Rhufeinig a'r Eglwys Gatholig yn 320AD oherwydd eu cyswllt â gwyliau paganaidd. Fodd bynnag, cafwyd gwared o'r gwaharddiad a buan y tyfodd poblogrwydd y sosej unwaith eto.
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

