MATHAU O SOSEJ
Dywedir fod dros 400 o amrywiaethau o sosejis ar gael ym Mhrydain. Mae gormod i'w rhestru yma ond dyma rai sydd yn gyfarwydd ac yn anghyfarwydd i chi o bosib:
|
Andouille |
Sosej sbeislyd wedi ei fygu ac yn wreiddiol o Ffrainc neu'r Almaen. Mae nifer o amrywiadau yn defnyddio cyfuniad o gig porc, braster, perfedd a threip. |
|
Sosej Cumberland |
Un o'r ffefrynnau Prydeinig a'r un sydd â'r cynnwys uchaf o gig. Fe'i weinir fel arfer wedi'i droelli i siap cylch ac fe wneir o gig sydd wedi ei dorri'n fras gyda llawer o bupur du. |
|
Sosej Chipolata |
Mae'r enw'n gwreiddio o'r Eidaleg cipolla, sy'n golygu 'winwnsyn'. Mae sosej Chipolata yn fychan, yn denau ac wedi'i wneud o berfedd oen. |
|
Sosej Cig Eidion |
Ychwanegiad da ond yr Alban y mae'n cael ei fwynhau gan amlaf. |
|
Sosej Cwrw |
Mae'r ychwanegiad o gwrw yn cyfuno'n dda â phorc i greu sosej blasus. |
|
Boerewors |
De Affrica oedd y wlad wnaeth ddyfeisio'r Sosej yma ac mae'r term yn cyfieithu i 'Sosej y Ffermwr' Mae yna nifer o amrywiadau ond maent fel arfer yn cael eu gwneud o gig eidion a braster porc yn y DU gyda'r ychwanegiad o finegr a choriander ffres am rysait diddorol. |
|
Pwdin Gwaed (neu Sosej gwaed) |
Fel arfer yn cael ei weini fel rhan o'r brecwast llawn Prydeinig. Mae'r pwdin gwaed yn cynnwys gwaed mochyn a chiwbiau o fraster gyda 'rusk' a blawd ceirch wedi'u ychwanegu i gyfuno'r holl gynhwysion. |
|
Bratwurst |
Gwreiddio o'r Almaen. Mae hwn yn sosej hir wedi'i wneud o borc neu cig llo gyda'r ychwanegiad o wy a winwns. |
|
Sosej Brecwast |
Sosej porc sydd ychydig yn sbeislyd ac yn cael eu gweini fel arfer yn rhan o frecwast. |
|
Sosej y Cigydd |
Hwn yw'r sosej traddodiadol ym Mhrydain, a wneir gan y cigydd lleol â chig porc, perlysiau a sbeisys. |
|
Chorizo |
Sosej sbeislyd a wneir o borc, paprica a phupur coch. Mae'n gwrieddio o Sbaen a gall fod yn rai sydd wedi eu mygu neu beidio. Gellir bwyta'r rhai sydd wedi eu mygu wedi'u coginio ond mae'r rhai sydd heb eu mygu i'w bwyta heb eu coginio. |
|
Sosej Pysgod |
Math digon rhyfedd o sosej ond un sy'n dechrau dod yn fwy poblogaidd. Samwn a thiwna yw'r ddau fath mwyaf poblogaidd. |
|
Glamorgan |
Un o'r cyfraniadau Cymreig ond nid yw'n cynnwys cig ac nid yw mewn gwirionedd yn sosej gan nad oes croen iddo. Gwneir y Glamorgan drwy gyfuno briwsion, caws Caerffili, shibwns, wy a pherlysiau. |
|
Haggis |
Ffefryn traddodiadol yr Alban ac mae ei gynhwysion yn aml yn ddigon i godi pwys ar rywun! Gwneir haggis o offal oen gyda'r bibell wynt, ysgyfaint, calon ac afu yn cael eu berwi cyn eu minsio. Ychwanegir siwed cig eidion i'r gymysgedd ac yna mae'r cyfan yn cael ei roi at ei gilydd gan ddefnyddio stumog yr oen a'i wnio'n gau. Yn draddodiadol, mae haggis yn cael ei goginio drwy ei ferwi ond gellir ei bobi yn y ffwrn hefyd. Nodyn bach diddorol i chi yw fod 2/3 o dwristiaid Americanaidd yn meddwl mai anifail yw Haggis! |
|
Sosej Eidaleg |
Sosej hyfryd, llawn blas ac yn werth ei flasu'n ffres. Mae'r blas yn gryf. Yn aml iawn, mae sosej Eidaleg yn cynnwys 100% o gig gyda phupur du, ffenigl (fennel) a chilli. |
|
Sosej Cig Oen |
Ffefryn y Cymry! Gall y sosej yma fod yn uchel o ran braster felly argymellir grilio fel y dull coginio gorau. Mae'r sosej yn cynnwys cig oen wedi'i gyfuno â chennin, mint neu rhosmari. |
|
Sosej Lincolnshire |
Sosej traddodiadol gyda chyfuniad o berlysiau, porc, briwsion a saets. |
|
Marylebone |
Rysait cigydd o Lundain a wneir â pergibyn (mace), sinsir a syfi. |
|
Sosej Rhydychen |
Sosej a wneir drwy gyfuno porc, cig llo, lemwn a pherlysiau ffres (saets, safri a marjoram fel arfer) |
|
Sosej Porc & Afal |
O Ardal Gorllewin Lloegr. Mae porc, syfi ac afal yn cael eu cyfuno â'i gilydd a seidr neu scrumpy yn cael ei ychwanegu. |
|
Sosej Porc & Cennin |
Cyfraniad Cymreig arall. Rhoir cennin ynddo ac fe ychwanegir sinsir a syfi weithiau. |
|
Salami |
Sosej sych enwog gyda llawer o amrywiadau. Ychwanegir llawer o garlleg, halen, pupur a siwgr i'r sosej yma. Cig eidion neu borc yw'r cig fel arfer. Mae'r rhan fwyaf o salami yn cael eu sychu ag aer yn hytrach na'u mygu neu eu coginio. |
|
Sosej Albaeneg |
Yn gyffredinol, mae'n well gan yr Albanwyr gig eidion. Mae'r sosejis yma'n debyg i pate. |
|
Sosej Suffolk |
Yn debyg iawn i'r sosej Lincolnshire. Mae'r cig yn cael ei dorri'n fras a'i gyfuno gydag yr un perlysiau mwy neu lai. |
|
Tomato |
Poblogaidd iawn yng Nghanolbarth Lloegr a'r tomato sy'n rhoi'r lliw coch iddo. Gellir defnyddio basil neu domatos sydd wedi eu sychu yn yr haul am flas cryfach. |
|
Sosej Toulouse |
Yn cynnwys porc sydd wedi ei dorri'n fras a phersli, gwin coch a garlleg. |
|
Sosej Llysieuol |
Mae bwydlysyddiaeth yn parhau i dyfu ac mae llawer o wahanol sosejis llysieuol ar gael. Y rhai mwyaf cyffredin yw Quorn a rhai Linda McCartney. Fodd bynnag, gellir gwneud sosejis llysieuol o lawer o wahanol gyfuniadau mor belled a'u bod yn gallu cadw at ei gilydd yn ystod coginio. Ymhlith yr enghreifftiau y mae tofu, cnau, ffacbys, protein soia a llysiau. Yn gyffredinol, mae dau fath o sosej llysieuol: un sy'n ceisio bod yn debyg i sosejis cig a'r un sydd wedi ei wneud o sbeisys a chynhwysion eraill sydd ddim yn ceisio bob yn debyg i sosej cig. |
|
Sosej Cig Carw |
Mae cig carw yn isel o ran braster a mae'r amrywiad yma felly'n tyfu mewn poblogrwydd. Mae ychydig o fraster porc yn cael ei ychwanegu ar gyfer suddlondeb a chynhwysion eraill megis gwin coch, garlleg a mwyar juniper. |
|
Pwdin Gwyn |
Ffefryn yn Iwerddon ac fe wneir â chyfuniad o gig gwyn, briwsion, hufen ac wyau. |
|
Sosej Baedd Gwyllt |
Perthynas agos i'r sosej porc ond mae'r cig yn dywyllach ac yn gryfach o ran blas. Fel arfer, cyfunir ag afalau, gwin coch a garlleg. |
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

