dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
llun o Dudley

SOSEJIS

Mae sosejis ymysg y bwydydd hynny sy'n cael eu mwynhau fwyaf a sy'n cael eu bwyta fwyaf. O'r banger Prydeinig blasus i'r Hot Dog Americanaidd, mae milynau o sosejis yn cael eu bwyta'n ddyddiol. Gellir eu bwyta amser brecwast, cinio neu swper neu hyd yn oed fel byrbryd.

SOSEJ YM MHRYDAIN

Cynhyrchwyd sosejis yn gadwyni toredig am y tro cyntaf tua cyfnod teyrnasiad Brenin Siarl I, tra'r ymddangosodd y cyfeiriad cyntaf penodol Saesneg at y bwyd fel sawsage rhywbryd yn ystod y 15fed ganrif. Hefyd, credir fod y lleidr pen ffordd Dick Turpin wedi bod yn dipyn o gigydd ar un adeg gan gynhyrchu sosejsi ei hun.

Mae'r Prydeinwyr wedi mwynhau sosejis ers blynyddoedd. Arferai'r Frenhines Fictoria fwynhau sosejis ond roedd hi'n benderfynol fod y cig yn cael ei dorri â llaw yn hytrach na chael ei finsio.

Rhoddwyd y llysenw bangers ar sosejis yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd fod llawer o ddwr ynddynt fyddai'n berwi tra'n eu ffrio a fyddai'n eu hachosi i ffrwyddro gyda bang. Golygai gwaharddiadau bwyd fod cynhwysion safonol yn brin a olygai fod sosejis yn cael eu cynhyrchu'n rhad iawn.

Yn y DU, rydym yn bwyta tua 175, 000 o dunelli o sosejis y flwyddyn. Yn nhermau arian, mae hyn yn werth tua £487 miliwn. Amcangyfrifir fod 90% o gartrefi yn y DU yn prynu sosejis a 50% o'r rheiny yn prynu o leiaf bob pedair wythnos tra bod 5 miliwn o bobl yn bwyta sosejis ym Mhrydain yn ddydiol. Dywed ymchwil fod sosejis yn aml yn cael eu bwyta fel rhan o bryd bwyd nos a dydd Sadwrn yw'r diwrnod mwyaf poblogaidd i'w bwyta.

DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY