SAFON SOSEJ
Roedd y sosej hiraf a wnaed erioed yn mesur 36.74 o filltiroedd o hyd (59.14km). Gwr o'r enw J.J. Tranfield wnaeth y sosej yma yn Sheffield ar 27-29 Hydref, 2000. Mae llawer yn credu, ar y cyfan, fod sosejis yn cynnwys cig dros ben o anifail sydd wed'i ladd ac mae hyn yn wir mewn rhai achosion. Mae'r sosejis rhataf ar y farchnad yn cynnwys llai o gig a mwy o fraster tra bod y sosejis gwell yn cynnwys mwy o gig safonol.
I sicrhau eich bod yn prynu'r Sosej gorau
- Edrychwch am sosejis plwmp sydd â dros 70% o gig iddynt. Dylai'r cig fod wedi'i bacio'n dyn a dim swigod aer yn y pecyn.
- Dylai croen y sosejis fod yn naturiol a ddim yn artiffisial. Dylai eu croen ddisgleirio hefyd.
- Edrychwch am farc safon yr ansawdd ar y pecyn.
- Edrychwch ar y cynhwysion a dewiswch y sosejis gyda'r lleifswm, neu gwell fyth, dim E rifau.
- Byddwch yn wyliadwrus o sosejis sydd wedi eu pacio a heb farc safon Prydeinig ar y pecyn oherwydd mae'n debygol eu bod wedi eu gwneud o gig rhad wedi ei fewnforio o wledydd tramor.
- Osgowch sosejis sy'n cynnwys llawer o ddwr neu sydd wedi eu llenwi â chynhwysion rhad fel gormodedd o fraster, bara a 'rusk'.
- Cofiwch, y mwyaf y byddwch yn ei dalu am sosejis, y gorau'r safon. Os ydych yn ansicr, peidiwch a bod yn ofnus i gael cyngor gan eich cigydd.
Y dull mwyaf poblogaidd o goginio sosejis yw grilio, sydd yn fawr o syndod o ystyried ein cymdeithas sydd yn ofalus ynghylch bwyd y dyddiau hyn! Mae ffrio yn parhau i fod yn boblogaidd gan lawer ond mae hyn yn lleihau mewn poblogrwydd oherwydd fod mwy a mwy o bobl yn bwyta llai o galoriau a braster. Mae pricio'r sosej yn golygu eich bod yn colli'r holl sudd fydd yn sychu'r Sosej ond mae hyn yn fwy iachus i chi.
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C

