"Fel plentyn yn tyfu lan yng Nghwm Rhondda yn y '70au cynnar, dim ond unwaith y flwyddyn yr oedd y rhan fwyaf ohonon ni'n mynd i'r traeth, a hynny ar drip Ysgol Sul i Borthcawl neu Ynys y Barri," esbonia. "Roedd mynd i Dresaith yn brofiad gwahanol - doedd dim ffair, dim candy floss - dim ond awyr iach a milltiroedd o draeth."
Bryd hynny, roedd llawer o'r disgyblion yn ysgol Dudley, Ysgol Gyfun Rhydfelen, yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Bwriad Canolfan Tresaith, oedd yn cael ei redeg gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru, oedd rhoi cyfle i'r plant ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol am ychydig ddyddiau. Ar un o'r tripiau, cafodd Dudley ei ddewis fel un o'r pedwar bachgen 14 oed fyddai'n coginio ar gyfer y chwe athro a'r 40 plentyn llwglyd yn y ganolfan.
Un o'r athrawon hynny oedd Marina James, sydd bellach yn brifathrawes yn Ysgol Aberaeron. Meddai Dudley, "Mae Marina James yn ddynes arbennig iawn. Hi oedd yr un a sylweddolodd faint roeddwn i'n mwynhau coginio a wnaeth hi fagu'r diddordeb hwnnw. Yn Nhresaith, nes i ddarganfod rhywbeth roeddwn i'n dwli neud a moyn ei wneud."
Meddai Marina James, "Fel disgybl, roedd Dudley'n llawn egni, sbort a sbri. Pan oedd plentyn yn sâl ac yn methu cinio byddai Dudley wrth ei fodd yn gwneud 'Dudley special' iddyn nhw - brechdan dost gyda llenwad arbennig. Roedd y plant yn gwella'n reit sydyn ar ôl ei bwyta!"
Un peth sydd heb newid dros y blynyddoedd yw'r pwyslais y mae Dudley yn rhoi ar addysgu plant i fwyta'n iach ac i ddefnyddio cynhwysion ffres a lleol.
"Rwy wedi gweithio gyda llawer o ysgolion ac mae angen trawsnewid y cwricwlwm," meddai. "Mae'n frawychus i mi fod rhieni yn dibynnu ar y cinio ysgol fel prif bryd y diwrnod. Rhan o'r rheswm am hyn yw bod rhai rhieni ddim yn medru coginio prydau sylfaenol. Rwy'n cael pobl yn dod ata i'n dweud nad ydyn nhw'n medru fforddio bwyd ffres a bod yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio bwyd mewn paced - ond y gwir yw bod neb wedi dysgu iddynt sut i goginio. Addysg sydd ei angen."
Er mwyn profi bod dysgu coginio'n gallu bod yn hwyl, mae Dudley yn gosod her i bedwar disgybl o Ysgol Aberaeron ar ei daith ddiweddar i Dresaith. Yn ystod y rhaglen ddwyran fydd i'w gweld nos Iau, 19 a 26 Mai, cawn weld sut y byddant yn ymdopi wrth goginio i griw o blant ysgol, yn paratoi pryd blasus i westai arbennig Dudley ac yn trefnu barbeciw ar y traeth.
bob nos Iau am 9.00 pm gydag isdeitlau Cymraeg
ailddarllediad bob dydd Sul am 3.30pm, gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin a gwasanaeth llun-ddisgrifio

