
DUDLEY YN UMBRIA
Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.
YNGLYN Â UMBRIA
BARA
- Mae ffordd pobl Umbria o wneud bara yn tanlinellu eu hagwedd at fwyd cadw pethaun syml tran cynnig digon o amrywiaeth. Maer Eidalwyr wedi gwneud crefft allan or broses o wneud bara, trwy ddefnyddio amrywiaeth o gynhwysion a blasau i greu nifer fawr o wahanol fathau o fara. Ceir rhai wediu stwffio â chig, caws, sbigoglys a phupurau, neu â thrwythiad o berlysiau, garlleg neu domatos.
- Un o allforion mwyaf llwyddiannus yr Eidal ywr pitsa, sydd bellach yn fwyd-gyfleus mwyaf poblogaidd yr Unol Daleithiau. Dywedir mai pobydd o Napoli (Naples) or enw Raffaele Esposito a ddyfeisiodd y pitsa, a hynny pan yn gorfod creu pryd ar gyfer ymwelwyr brenhinol. Cymysgodd domatos, mozzarella a basil, au rhoi ar fara gwastad, ysgafn. Maen debyg bod lliwiaur cynhwysion ar wyneb y pitsa yn cynrychiolir tri lliw ar faner yr Eidal coch, gwyn a gwyrdd.
- Er ir pitsa gael ei ddyfeisio yn ner wlad, fe ledaenwyd y syniad trwyr Eidal gan ei fod yn hyblyg ac yn ddeniadol. Ni chymrodd yn hir i ardaloedd eraill fabwysiadur dechneg o wneud pitsas, a ddaeth yn ffordd ychwanegol o amrywior bara a bobid ledled y wlad.
- Yn gyffredinol, gwneir bara yn Umbria heb ddefnyddio halen, ac felly mae llawer o bobl yn cwyno ei fod yn ddi-flas pan yn ei brofi am y tro cyntaf. Yn wir, bydd sawl ymwelydd ir rhanbarth yn meddwl bod pobyddion Umbria wedi anghofio am yr halen, ond y gwir yw bod y syniad o bobi bara heb halen yn deillio nôl i ganol yr 16ed Ganrif, pan godwyd treth ar halen gan y Pab.
- Heb yr halen yn y cynhwysion, darganfuwyd bod y bara yn galetach ac yn fwy crystiog, ac yn paran well heb iddo sbwylio. Lledaenwyd gwahanol bethau ar y bara iw wlychu ac i ychwanegu halen at y blas. Gellir trawsnewid bara diymhongar yn fyrbryd blasus trwy ychwanegu caws Parmesan, darn o prosciutto neu haenen ddigonol o afu cyw iâr neu bâst clôr y moch (truffle paste).
- Yn aml ychwanegir darnau o fara at gawg o gawl neu lysiau, neu at saws o domatos a garlleg syn mudferwi yn y sosban. Prif brydau Umbria syn seiliedig ar fara yw:
Panzanella: gair Eidalaidd syn golygu salad bara; mae hwn yn bryd yr haf ac yn arfer cynnwys tomatos aeddfed, llawn sudd, a llysiau tymhorol ffres.
Bruschetta: yn llythrennol maer gair bruschetta yn golygu rhoi lliw ir bara trwy ei dostio neui roi o dan y gril.
Torta al Testo: bara isel a wneir gyda llaw. Maer toes yn gymysgedd o ddwr, blawd, halen, pupur ac olew olewydd: caiff hwn ei stwffio gyda ham, selsig neu berlysiau sydd wediu trwytho mewn olew olewydd. Yna pobir y cymysgedd ar garreg marmor arbennig mewn ffwrn syn llosgi pren.
Pappa al Pomodoro: ystyr y gair Eidaleg pappa yw mwtrin neu stwnsh. Maer pryd hwn yn gymysgedd blasus o fara a thomatos, wediu malu au cymysgu iw gilydd. I sicrhau fod y blas yn cael ei gyflwyno'n iawn, caiff y pryd ei wasanaethu ar dymheredd yr ystafell.
