
DUDLEY YN UMBRIA
Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.
YNGLYN Â UMBRIA
CAWS
- Mae Umbria yn ddigon ffodus i gynhyrchur deunydd crai syn angenrheidiol ar gyfer cynhyrchion llaeth organig, naturiol. Felly mae traddodiad hir o gynhyrchu caws (formaggio) yn yr ardal, er efallai nad ywr coginio yn Umbria yn dibynnu gymaint â hynny ar gaws ag yw bwydydd Eidalaidd yn gyffredinol.
- Maen ymddangos mair caws mwyaf poblogaidd yn Umbria yw pecorino, er mai cartref traddodiadol y caws hwn yw rhanbarthau Tuscany, Latium a Sardinia. Cynhyrchir pecorino allan o laeth defaid Umbria, ac maen ymddangos mewn sawl gwahanol ffurf: yn ifanc neun aeddfed; yn felys neun sbeislyd; yn fwyn neun gryf. Ar y cyfan, maen hawdd gwahaniaethu rhwng pecorino â chawsiau eraill oherwydd ei flas cryf ai arogl miniog.
- Dechreuwyd cynhyrchu pecorino ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, pan ddaeth yn rhan o ymborth y Rhufeiniaid. Bwytâir cyfoethog pecorino mewn gwleddoedd moethus, tra bod y lleng-filwyr yn cael y caws yn eu hymborth beunyddiol gan y credid y gallai rhoi hwb o egni. Roedd y gred hon yn lled gywir, gan fod pecorino yn ffynhonnell dda o egni, ac maen esmwyth ar y stumog gan iddo gael ei dreulion hawdd.
- Dymar cawsiau eraill syn nodweddiadol o Umbria:
Ravigiolo: caws meddal, mwyn, sydd heb grofen. Fe ddaw ravigiolo o laeth hufennog wedii basteureiddio ai halltu drwy ei adael mewn dwr hallt am ychydig.
Ricotta: ceir tri math o gaws ricotta yn y rhanbarth. Fe ddawr cyntaf o laeth dafad ar ail o laeth buwch, tra bod y trydydd math yn dod o gymysgedd o laeth dafad a buwch.
Mozzarella: maen debyg mai hwn ywr caws mwyaf adnabyddus or Eidal, oherwydd ei gysylltiad enwog â pizza. Mae mozzarella yn gaws meddal gwyn ag ansawdd gludiog, a ddaw o laeth hufennog y fuwch.
Caciotta: caws gwyn syn feddal ond yn gadarn, a ddaw o laeth buwch neu laeth dafad. Mae ganddo flas tebyg i fenyn, syn bleserus ac yn siarp.
Mascarpone: maen bosibl y daeth mascarpone yn wreiddiol fel sgîl-gynnyrch i gawsiau eraill. Yn aml ychwanegir siwgr at mascarpone, syn egluro pam maen cael ei gynnwys mewn pwdinau melys fel tiramisu. - Yn yr Eidal, mae cynhyrchu caws yn gyfrifoldeb y Casari (y ffermwyr llaeth), sydd wedi dod yn arbenigwyr ar eu crefft, gan adeiladu ar genedlaethau o brofiad o godi a magu gwartheg a chynhyrchu llaeth. Maer ffordd o gynhyrchu a ddefnyddir heddiw yn gyfuniad or hen arferion â thechnoleg gyfoes, syn sicrhau bod y cynnyrch yn cyrraedd y safonau uchaf o ran glanweithdra.
