dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

DUDLEY YN UMBRIA

Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.

DUDLEY YN UMBRIA

Mae gan rhanbarth Umbria dirwedd werdd, bryniog, ffrwythlon, llawn gwinwydd ac olewydd, sy’n peri i’r ardal gael ei galw’n ‘Calon Werdd yr Eidal’ a ‘Gwlad Sanctaidd yr Eidal’. Er i hwn fod yn un o ranbarthau lleiaf yr Eidal, mae’n darparu cyfoeth o gynnyrch naturiol o’r safon uchaf, gan gynnwys gwin, cigoedd ac olew olewydd. Mae coginio Umbria ynghlwm wrth draddodiadau teuluol, lle mae’r gelf o ddefnyddio cynhwysion ffres, lleol wedi’i meithrin, a’r technegau wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
  • Yn hanesyddol, mae trigolion Umbria wedi dibynnu’n llwyr ar y cyfoeth sydd ar eu tir, gan fod hwn yn un o’r ychydig ranbarthau yn yr Eidal sydd heb arfordir. Preswylwyr gwreiddiol yr ardal oedd yr Umbri hynafol (sy’n rhoi’r enw i’r rhanbarth) a ffynasant yn y bryniau coediog, a oedd yn llawn ffrwythau ffres, llysiau, perlysiau, a digonedd o gig, ieir ac adar hela.


  • Mae traddodiadau bwyd Umbria yn seiliedig yn bennaf ar gigoedd, cawsiau, llysiau a chlôr y moch (truffles): pob cynhwysyn yn gynhenid i’r wlad. Mae’r cyfuniad o gynhwysion elfennol a’r ymwrthod â ffyrdd cymhleth o goginio yn sicrhau bod coginio yn Umbria yn syml ac yn ddi-ffwdan.


  • Ceir llawer o ddanteithion yng nghoedwigoedd Umbria, sydd wedi ychwanegu at gyfoeth ymborth y trigolion trwy’r oesoedd. Yn yr hen ddyddiau, casglwyd moethau fel mefus, cyrens, cnau barfog a mafon fel ffynhonnell ychwanegol o fwyd: bellach, caiff y danteithion hyn eu defnyddio i baratoi jamiau, losins, pwdinau a liqueurs.


  • Mae tirwedd werdd Umbria yn cynnig y porthiant delfrydol i sicrhau cynnyrch llaeth o’r safon uchaf. Gyda’r gwartheg yn pori ar dir sydd mor lân a chyfoethog, mae’r cig a’r llaeth yn rhagorol. Hefyd, gyda’r teuluoedd yn cadw at arferion o ffermio sydd heb eu newid ers canrifoedd, sicrheir fod y grefft o greu bwydydd da yn Umbria yn glynu wrth y traddodiadol.


  • Trwy gydol y rhanbarth fe welwch goed a gwinwydd trefnus, sydd nid yn unig yn ddeniadol iawn, ond hefyd yn darparu cynnyrch cyfoethog i’r trigolion. Felly mae gan y rhanbarth dir da, hinsawdd addas a phoblogaeth sy’n meithrin y tir yn ofalus, ac mae’r ffactorau hyn yn sicrhau enw da Umbria fel hafan o fwydydd godidog.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY