dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

DUDLEY YN UMBRIA

Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.

DIWYLLIANT BWYD YR EIDAL

Mae coginio Eidalaidd wedi datblygu o’i wreiddiau ym mwydydd y Rhufeiniaid, y Groegwyr a’r Etruscans. Dros y canrifoedd, mabwysiadwyd nifer o arferion o wledydd eraill o gwmpas Môr y Canoldir, ac fe gafodd bwydydd o fannau ymhellach i ffwrdd eu cynnwys, i greu’r amrywiaeth cyfoethog o brydau a gysylltwn a’r Eidal heddiw. Bu’r Eidalwyr erioed yn frwd am eu bwyd, gan gredu mai bwyd yw hanfod bywyd. Yn sicr credodd yr Eidalwyr erioed y dylai dyn fyw er mwyn bwyta, nid bwyta er mwyn byw!
  • Y Rhufeiniad hynafol sy’n gyfrifol am sicrhau bod diwylliant y gorllewin yn cynnwys cymaint o amrywiaeth o fwydydd coeth, trwy ddyfeisio ffyrdd blaengar i baratoi a chadw bwyd. Wrth i’r Ymerodraeth Rufeinig ledu, ac i fasnach ffynnu y tu-fewn iddi, fe gyflwynwyd nwyddau egsotig ­ ffrwythau, ieir, llysiau, grawnfwyd a sbeisys ­ a ddaeth maes o law yn hanfodol i goginio’r Eidal. Cafodd prydau newydd eu creu, gan dderbyn dylanwadau o’r gwledydd a oresgynnwyd gan y Rhufeiniaid.


  • Gyda chwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yn y pendraw, fe chwalwyd undod yr Eidal, a rhannu’n nifer o deyrnasoedd annibynnol, pob un â’i chymeriad ei hunan, yn ôl ei thraddodiadau a’i hadnoddau. Erbyn yr Oesoedd Canol, cyflwynwyd nifer o fwydydd newydd i’r Eidal gan estronwyr. Er enghraifft, fe ddaeth Arabiaid yn y 9fed Ganrif, gan feddiannu de’r wlad, a dywedir mai hwy a gyflwynodd y bwyd hanfodol Eidalaidd, sef pasta, i’r wlad!


  • Wrth edrych yn ôl, gallwn ddweud mai’r Eidal oedd y wlad lle cyfarfu diwylliannau bwyd gwahanol, gan gyfuno a datblygu. Does dim rhyfedd i’r wybodaeth hon gael ei chofnodi, ac mai’r Eidalwyr oedd y cyntaf i lunio llyfrau coginio. Fe sicrhaodd yr hinsawdd ffafriol fod y planhigion estronol yn ffynnu, gan ddarparu ymborth amrywiol a chyfoethog i’r boblogaeth.


  • Er enghraifft, ystyriwyd tomatos yn addurniadau prydferth ar gyfer y cartref nes i’r Eidalwyr sylwi ar eu potensial llawn yn y gegin. Dim ond yn y 19fed Ganrif y cyfunwyd pasta a thomatos i greu nifer o brydau blasus a hyblyg. Mae’n anodd credu, ond cyn i’r sawsiau tomato gael eu datblygu, cawsai pasta ei fwyta’n sych, fel byrbryd.


  • Er bod gan bob rhanbarth ei arbenigedd ei hun, mae digon o brydau "cyffredin" Eidalaidd i’w cael ar hyd y wlad: pastas, cawsiau, olew olewydd, salami a gwinoedd. Dilynir canllawiau i sicrhau safon uchel bwydydd, olewau a gwinoedd, a chyflwynir tystysgrifau i gynnyrch sy’n gwarantu eu safon a’u tarddiad.


  • Gall amser cinio yn yr Eidal fod yn broses cymhleth a hirwyntog, gyda sawl cwrs i sicrhau fod digon o amser yn cael ei dreulio wrth y bwrdd gyda ffrindiau a theulu. Yn draddodiadol, fe all pryd mawr o fwyd gynnwys y canlynol:
Aperitivi (Aperitif ­ diod fach sy’n gymorth i godi chwant am fwyd)
Pane (Bara neu frigau bara, i’w gollwng mewn olew olewydd, sy’n cael ei gynnig gyda’r aperitif).
Antipasto (Cwrs cychwynnol)
Primi (Y prif gwrs)
Secondi (Yr ail gwrs)
Formaggio (Cwrs o gaws)
Fratta (Ffrwyth ffres, sy’n arfer cael ei gynnig â chnau)
Dolci (Pwdin)
Digestivi (Liqueurs ­ i gynorthwyo’r ciniawyr i dreulio'u bwyd!)
  • Nid yw’r ffordd Eidalaidd o goginio yn unffurf, ac mae rhwydd hynt i gogyddion greu eu prydau eu hunain, gan ddefnyddio ryseitiau a draddodwyd ar lafar trwy’r cenedlaethau. Yn ei hanfod, mae coginio traddodiadol yn rhanbarthau’r Eidal yn dibynnu ar reddf a blas yr unigolyn, yn hytrach nag ar ryseitiau cyfyng, manwl.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY