
DUDLEY YN UMBRIA
Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.
YNGLYN Â UMBRIA
CIG
- Mae Umbria yn hafan bur ir sawl syn frwd am eu cig. Gwleddar anifeiliaid ar gyfoeth naturiol y rhanbarth, syn golygu bod y cig bob amser yn llawn blas ac o safon uchel. Y moch syn rhoir cig a ddefnyddir gan amlaf yng nghoginio Umbria, ac mae porc yn cynnig amrywiaeth o ddefnyddiau gwahanol, mewn ystod eang o hamiau, selsig a salamis. Mae gan y cig a ddaw o foch Umbria enw da am ei flas gan fod yr anifeiliaid yn bwydo ar blanhigion a pherlysiau syn tyfun wyllt ac yn ffres.
- Ystyrir y broses o ladd mochyn yn gelf ac yn grefft ynddoi hunan, a thrigolion tref Norcia syn enwog am fod y rhai mwyaf medrus. Yn wir, y dref hon ai phobl a roddodd y gair norcino ir iaith Eidaleg: gair syn golygu "lladd anifail a pharatoi selsig", tra bod y cigyddion sydd âr sgiliau i ddelio â chig moch yn arfer cael eu galwn norcini.
- Mae hanes cynhyrchion fel salami, selsig, a chig wedii halltu ai sesno, yn estyn nôl ir cyfnod pan sylweddolodd dynion bod yn rhaid trin bwydydd mewn ffordd ai cadwai yn fwytadwy am gyfnod o wythnosau neu fisoedd er enghraifft, pan yn paratoi ar gyfer teithiau hir. Fe ddaeth bwydydd a oedd mor hyblyg a chyfleus yn anghenraid i helwyr yn enwedig, gan eu bod yn treulio oriau hir i ffwrdd ou cartrefi.
- Dyma rhai salamis a chigoedd oer syn draddodiadol yn Umbria:
Mazzafegati: selsig o afur mochyn, a ddaw mewn ffurfiau melys a sawrus.
Corallina di Norcia: cymysgedd o borc o safon uchel sydd wedii friwion fân (3 rhan) â braster caled wedii dorrin sgwariau (1 rhan). Caiff hwn ei sesno â halen, pupur du a garlleg.
Umbrian Mortadella: cymysgedd mân i wneud selsig, a ddaw o gymysgedd o borc coch â halen a phupur du, a chyda stribyn hir o facwn yn rhedeg trwyr canol.
Budellacci: perfeddion y moch wediu trin â mwg: arbenigedd syn rhan o hanes gastronomegol Norcia.
Prosciutto crudo: ham heb ei goginio, syn cael ei ystyried y gorau o gigoedd oer Umbria.
Cold wild boar meats: defnyddir cig y baedd yn union yr un ffordd â phorc, ac yn aml fei cymysgir â phorc mewn amrywiol fathau o salamis a selsig. - Ffurf arall i goginio mochyn yn Umbria yw porchetta, sef mochyn bach du wedii rostio ar gigwain. Cyn iddo gael ei goginio, fe dorrir y mochyn bach ar agor a chymryd allan ei grafellau ysgwyddau ai berfeddion, a golchir corff yn ofalus. Maer perfeddion hefyd yn cael eu glanhau cyn cael eu rhoi nôl yn y corff yn ogystal â halen, pupur du, garlleg, ffenigl gwyllt, rhosmari, mintys a pherlysiau ffres eraill.
- Yn sicr, porc ywr prif gig yn Umbria, ond gellir hefyd mwynhau amrywiaeth o gigoedd o safon uchel, fel cig eidion, oen, colomen wyllt, ffesant, cwningen / ysgyfarnog, cig carw a chig llo. Ar un adeg, ystyriwyd y rhan fwyaf or rhain yn gigoedd ir werin yn unig, ond bellach feu gwelir ar y fwydlen mewn rhai o fwytai mwyaf crand y rhanbarth.
