dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

DUDLEY YN UMBRIA

Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.

OLEW OLEWYDD

  • Mae olew olewydd yn hanfodol i goginio’r Eidal, a ble bynnag yn y byd y bydd unrhywun yn ceisio creu bwydydd Eidalaidd, fe welwch chi’r olew arbennig hwn. Mae cynhyrchu’r olew’n deillio nôl i ddyddiau’r Rhufeiniaid ac mae’r diwydiant cyn bwysiced i economi’r Eidal â chynhyrchu gwin.


  • Gellir olrhain presenoldeb olewydd yn yr Eidal i’r cyfnod cyn-hanesyddol, ac fe ddechreuwyd cynaeafu cnydau’r olewydd rywbryd o gwmpas y 5ed Ganrif Cyn Crist. Cychwynnodd y grefft o feithrin olewydd ar ynys Creta yn nwyrain Môr y Canoldir, ond fe ledaenodd y technegau dros y canrifoedd, ar hyd y rhwydwaith o lwybrau marchnata. Yn y cyfnod hwnnw, roedd cynhaeaf mawr o olewydd gan wlad Groeg, lle adnabuwyd yr olew fel ‘aur hylif’.


  • Pan dyfodd grym a dylanwad Ymerodraeth Rhufain, fe blannwyd nifer helaeth o lwyni o olewydd o’r naill ben i’r llall o Fôr y Canoldir. O dan y Rhufeiniaid, yr Eidal a gynhyrchodd yr olew olewydd o’r safon uchaf am bris rhesymol. Yn wir, ffrwyth yr olewydd o Umbria oedd dewis y prif gogyddion, oherwydd i’r rhain gael eu hystyried y rhai gorau yn yr Eidal.


  • Fel canlyniad, fe honnir mai Umbria yw man geni olew olewydd Eidalaidd. Er bod rhai yn anghytuno â’r datganiad hwn, ceir tystiolaeth yn yr amrywiaeth eang o olewydd sydd i’w gweld yn y rhanbarth. Y mathau sy’n fwyaf cyffredin yn Umbria yw’r Moraiolo, y Leccino, y San Felice, y Frantoio a’r Pendolino.


  • Mae’r olewydd yn addasu’n arbennig o dda i’w hamgylchiadau, yn ddaearyddol ac o ran yr hinsawdd, ac maent yn gallu dygymod â phob math o dywydd. Felly mae cynaeafau olewydd yn ddibynadwy, ac nid yw’n syndod mai’r Eidal yw un o gynhyrchwyr mwyaf y byd ­ yn ail yn unig i Sbaen.


  • Bob blwyddyn bydd Umbria yn cynhyrchu dros 75,000 o dunelli o olew olewydd o’r safon blaenaf. Ers dyddiau’r Rhufeiniaid, clodforwyd yr olew oherwydd ei rinweddau meddygol a chosmetig, a’i allu i gadw un yn ifanc. Ceir sawl gwahanol fathau o olew olewydd, sy’n cael eu rhannu yn ôl lefelau’r asid sydd ynddynt:

    Pur: Mae blas, lliw a naws yr olew hwn o safon is i’w cymharu â gweddill yr olewau. Os nad ydych am i flas yr olew i fod yn drech na blas eich pryd, yna hwn yw’r olew i ddefnyddio.
    Hanner-Coeth (Semi-Fine): Mae hwn yn gyfuniad o olewau coeth a hynod-goeth, sydd ag asidrwydd o 3% i bob 100ml o’r olew.
    Coeth (Virgin): Sydd â blas ychydig yn llai amlwg na’r olew hynod-goeth, ac asidrwydd ychydig yn uwch, gyda lefel o 1.5% - 2%.
    Hynod-Goeth (Extra Virgin): Hwn yw’r safon fwyaf coeth o olew olewydd, gyda lefel o asidrwydd o lai na 1%. Hwn yw’r un mwyaf poblogaidd a’r un mwyaf adnabyddus.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY