
DUDLEY YN UMBRIA
Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.
YNGLYN Â UMBRIA
CLÔR Y MOCH
- Clôr y moch (truffles, neu tartufi yn yr Eidaleg) yw trysor cudd Umbria. Ceir sawl math o glôr y moch, a fawrygir yn y rhanbarth a thu-hwnt:
Y Cyloryn Du: Dymar math mwyaf cyffredin o glôr, syn aeddfedu rhwng Tachwedd a Mawrth. Maer croen yn dywyll neun ddu fel y frân, tra bod y cnawd fel arfer yn ddu neun fioled. Gallant amrywio yn eu hyd au lled, o faint cneuen Ffrengig hyd at faint oren neu afal. Dylid twymo clôr du ychydig cyn eu gwasanaethu, ac maent yn rhagorol iw bwyta fel hors doeuvre neu i gydfynd â phasta. Hefyd, maer persawr yn rhoi hwb hyfryd i sawsiau ac i derinau, a phan gânt eu paratoi fel garnais.
Y Cyloryn Gwyn: Hwn ywr cyloryn mwyaf prin a gwerthfawr, sydd â phersawr dwys, neilltuol. Maent yn aeddfedu rhwng Hydref a Rhagfyr, er y gellir dod o hyd iddynt hefyd ym mis Ionawr mewn ardaloedd a gysgodir o dywydd garwr gaeaf. Maent yn amrywio yn eu maint (yn debyg ir clôr du), ac maer lliw yn gallu mynd o frown golau i frown tywyll. Y ffordd orau iw gwasanaethu ywn amrwd, heb unrhyw saws, ac feu defnyddir yn draddodiadol gyda saladau, cig amrwd, wyau â menyn, fondues a tagliatelle ffres.
Y Scorzone (neu Gyloryn yr haf): Yn wahanol iw gefndryd mwyaf adnabyddus, maer cyloryn hwn iw ddarganfod gan fwyaf yn ystod y misoedd mwyn a chynnes. Ystyrir hwn yn gyloryn isradd, oherwydd ei fod mor gyffredin ac, yn wahanol ir rhai du a gwyn, maen blasun well ar ôl ei brosesu. Maen well defnyddior scorzone mewn cynnyrch syn cynnwys clôr, fel olewau, pasta, menyn, hufenau, pâté, cawsiau a liqueurs. - Mae gan y broses o gynaeafu a chynhyrchu clôr y moch ddylanwad mawr ar goginio Umbria ac ar fasnach y rhanbarth. Caiff bron 80% o gyflenwad yr Eidal o glôr y moch ei baratoi ai fasnachu yn Umbria. Rhwng Hydref a Mawrth, sef yr adeg or flwyddyn pan ywr clôr mwyaf deniadol ar gael, ceir arddangosfeydd blynyddol or cynnyrch.
- Cysylltir y cyloryn du â thref Norcia, a dywedir nad ywn hawdd dod o hyd i neb syn fodlon datgelur lleoliadau lle tyf y cynnyrch. Ers cenedlaethau mae teuluoedd lleol wedi gwarchod y gyfrinach o ble i ddod o hyd ir clôr. Bob blwyddyn cynhelir helfa gan y teuluoedd er mwyn darganfod gymaint or danteithion ag syn bosibl.
- Beth yw clôr y moch? Maent yn fath o ffwng syn tyfu o dan wyneb y ddaear, a cheir dros 30 rhywogaeth ohonynt, pob un â chanddo rhyw werth fel bwyd. Tyf clôr y moch mewn carreg galch neu glai calchog, lle maent yn datblygu mewn perthynas agos â gwreiddiaur coed, gan ddibynnu ar y goeden am eu tyfiant.
- Y goeden, felly, syn gyfrifol am nodweddion y cyloryn. Er enghraifft, os ydir cyloryn yn tyfu ar goeden sydd â bywyd gymharol fyr, fei ystyrir yn gymharol ddiwerth. Ar y llaw arall, os ydir ffwng wedi tyfu ar y cyd â hen goeden megis derwen, yna maen sicr y bydd yn llawn nodweddion cyfoethog, a bydd llawer o alw amdano.
