
DUDLEY YN UMBRIA
Cawn flas ar fywyd a bwydydd yr Eidal yng nghwmni Dudley Newbery Trwy wahoddiad Wendy ac Alvaro Tardioli sy'n byw ym Mhenrhyn Gwyr, bydd Dudley yn teithio i fan geni Alvaro, pentref Spello yn Umbria, ardal fynyddig sy'n enwog am ei chynnyrch syml a blasus. Nid rhaglen am fwyd yn unig mo hon ond am werthoedd teulu a ffrindiau - ac am ffordd o fyw.
YNGLYN Â UMBRIA
GWIN UMBRIA
- Mae tirwedd a hinsawdd Umbria yn ddelfrydol ar gyfer meithrin gwinwydd, ac felly maer rhanbarth yn gartref i winllannau ffyniannus. Ceir yma ffynonellau dwr glân, pridd o glai calchog, a digonedd o haul, ac maer ffactorau hyn yn sicrhau bod gan Umbria draddodiad hir o gynhyrchu gwin or safonau uchaf, gyda rhai gwinllannaun gwneud gwin yn ôl yr hen ddulliau syml, naturiol.
- Daw amrywiaeth eang o winoedd allan o winllannau Umbria, ac mae rhai o ardaloedd y rhanbarth wedi cynhyrchu gwin o safon uchel ers dyddiaur Ymerodraeth Rufeinig. Yn wir, maen debyg bod rhannau o Umbria yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwin ymhell cyn dyfodiad y Rhufeiniaid.
- Yr Eidal ywr wlad syn cynhyrchur mwyaf o win, gyda nifer o winoedd Umbria ymhlith y goreuon. Yn y chwedegau dyfeisiwyd system i ddosbarthu gwinoedd, er mwyn reoli tyfur grawnwin a chynhyrchur gwin, a hysbysur cwsmeriaid am darddiad, ffynhonnell a dosbarth pob math o win.
- Gydar twf yn y fasnach, roedd yn rhaid cael y fath system er mwyn sicrhau bod safon y gwin yn parhaun uchel, a bod y cwsmeriaid yn gwybod beth yn union roeddent yn ei brynu. Dyma sut maer gwinoedd yn cael eu dosbarthu:
DOCG (Denominazione di Origine Controllata e Garantita): Y gorau oll o winoedd yr Eidal, mae gan y rhain sêl bendith y llywodraeth. Er mwyn iddynt ddwyn y stamp DOCG, maen rhaid ir gwinoedd basior profion mwyaf llym, gan gael eu harchwilion gemegol i sicrhau eu dilysrwydd.
DOC (Denominazione di Origine Controllata): Ar gyfer y dosbarth hwn maer rheolaun llym, ond nid mor gaeth âr rhai syn perthyn i DOCG. Yn ôl y gyfraith, maen rhaid ir gwinoedd hyn ddeillio o ardaloedd arbennig, gael eu cynhyrchu gan ddefnyddio dulliau cydnabyddedig, a chynnwys rhai cynhwysion arbennig er mwyn profi eu bod yn ddilys.
IGT (Indicazione Geografica Tipica): Mae hyn yn cyfieithu fel rhanbarthau daearyddol nodweddiadol, ac maer gwinoedd syn carior label hon yn dweud wrth y cwsmer o ba ardal y daethant. Gan amlaf, maer ardaloedd hyn yn fwy eu maint nar ardaloedd syn cynhyrchu gwin DOCG neu DOC.
Gwin Bwrdd (Vino da Tavola): Enw syn cyfeirio at winoedd bob dydd. Nid ywr canllawiau mor llym âr rhai uchod, er bod y gwinoedd wedi cyrraedd y safonau a osodwyd gan awdurdodau iechyd ac asiantaethau bwyd. - Dyma restr o winoedd Umbria i chwilio amdanynt (mae rhai or labeli yn cynnwys sawl math gwahanol o rawnwin, felly holwch yn eich siop win leol os oes gennych unrhyw gwestiynau):
Gwinoedd DOCG
- Montefalco Sagrantino
- Torgiano Riserva
Gwinoedd DOC
- Assisi
- Colli Altotiberini
- Colli Amerini
- Colli del Trasimeno
- Colli Martani
- Colli Perugini
- Lago di Corbara
- Montefalco
- Orvieto
- Torgiano
Gwinoedd IGT
- Allerona
- Bettona
- Cannara
- Narni
- Spello
- Umbria
