
BWYDLYSYDDIAETH
Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadaur llysfwytawyr wediu hybu ganrifoedd lawer yn ôl.
YNGLYN Â BWYDLYSYDDIAETH
GWERTHOEDD Y LLYSFWYTAWYR YN CAEL EU CRYFHAU GAN YR OESOEDD TYWYLL
- Gyda thwf yr Eglwys Fore, gydai syniadau am oruchafiaeth dynion dros bob anifail arall, diflannodd unrhyw wrthwynebiad i ladd anifeiliaid. Fodd bynnag, roedd ambell garfan yn dal i ddilyn ideoleg didrais Pythagoras, ond yn aml feu heriwyd gan yr Eglwys au cyhuddai o gyfeiliorni.
- Yn wir, yn Ewrop yr Oesoedd Canol, oherwydd y paranoia a oedd yn rhemp yn y cyfnod, fe ystyriwyd bwydlysyddiaeth yn gredo hereticaidd. Cafodd llawer o lysfwytawyr eu llosgi wrth y stanc am droseddi yn erbyn athroniaeth yr Eglwys sefydledig, ond fe lwyddodd sawl un i osgoir ffawd hon : yr amlycaf oedd Dewi, nawddsant Cymru!
- Erbyn cyfnod y Dadeni Dysg yn Ewrop, roedd bwyta cig yn gyfystyr â bod yn gyfoethog, gan mai dim ond y sawl a oedd â grym ac arian a allaii fforddio. Hefyd, cafodd cnydau eu distrywio ac roedd prinder bwyd yn rhemp, wrth i newyn ac afiechyd effeithio ar y boblogaeth ar draws Prydain ac Ewrop.
- Oherwydd prinder cig ac ymddangosiad llysiau dieithr or Byd Newydd er enghraifft blodfresych a thatws fe ail-gododd athroniaeth llysfwytäol Pythagoras i fod yn ddylanwadol unwaith eto. Diet llysfwytäol oedd gan lawer or werin bobl am y rheswm syml nad oeddent yn gallu fforddio prynu cig. Fodd bynnag, roedd yr amrywiaeth cynyddol o lysiau a oedd ar gael yn golygu gostyngiad yn afiechydon y croen, a oedd yn rhemp yn y cyfnod, ac fe welwyd gwellhad cyffredinol yn iechyd y bobl.
- Gydar Oes Oleuedig a ddaeth yn y 18fed Ganrif, fe ail-ystyriwyd y cwestiwn o oruchafiaeth y ddynoliaeth dros bob anifail arall. Cafwyd dadleuon mai creaduriaid call, teimladol oedd anifeiliaid, ac felly fe gytunwyd ar y syniad fod eu camdrin yn beth gwrthun.
- Hefyd, cafodd dietau llysfwytäol eu hawgrymu gan feddygon i wella cleifion mewn amrywiaeth o achosion. Felly, roedd y mudiad llysfwytäol yn edrych yn hyderus tuar dyfodol: roedd cydnabyddiaeth gynyddol o hawliau anifeiliaid, ac roedd mwy a mwy o lysiau a grawn ar gael.
