dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
vegetarian picture

BWYDLYSYDDIAETH

Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadau’r llysfwytawyr wedi’u hybu ganrifoedd lawer yn ôl.

TWF BWYDLYSYDDIAETH

  • Pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd, cafwyd effaith eithaf cadarnhaol ar fudiad bwydlysyddiaeth. Oherwydd dogni a phrinder bwyd, cafodd poblogaeth Prydain eu hannog "i gloddio am fuddugoliaeth", a thyfu eu ffrwythau a llysiau eu hunan. Mae’n debyg i’r plant a fagwyd yn ystod y cyfnod hwn dyfu i fyny yn fwy iach na chenedlaethau gynt, oherwydd i’w hymborth fod yn llawn ffeibr, ond yn isel ei gynnwys o fraster a siwgr.


  • Felly, gwelwyd gwellhad yn iechyd y genedl yn ystod blynyddoedd y rhyfel oherwydd i bobl fwyta diet a oedd bron yn rhydd o gig. Dywedir bod llawer wedi parhau â’r arfer o fod yn llysfwytawyr ar ôl i’r rhyfel ddod i ben. Gyda’r newidiadau dwys yn ymborth y genedl, ffurfiwyd y Gymdeithas Fegan ym 1944, gan llysfwytawyr a wrthodent fwyta unrhywbeth a ddeuai o anifeiliaid, gan gynnwys wyau a chynnyrch llaeth.


  • Yn y 1950au a’r 1960au fe ddatgelwyd am y tro cyntaf y gwirionedd y tu-ôl i "ffermio diwydiannol" ­ y dulliau dwys o ffermio a gyflwynwyd ar ôl y rhyfel er mwyn cynyddu‘r cynnyrch a chyflenwad o fwyd. Bu’r manylion yn arswyd i lawer o bobl, a welodd yr ymarfer fel creulondeb pur i’r anifeiliaid, ac felly fe ffynnodd bwydydd llysieuol, fel y dewis i osgoi bwyta cig.


  • Fe dyfodd apêl bwydydd llysieuol gyda gwrthddiwylliant canol y 60au, a wrthwynebodd drais ac a geisiodd hybu heddwch ar draws y byd. Yn yr awyrgylch hwn fe gytunodd Cymdeithas Llysfwytäol Llundain i ddychwelyd i’w gwreiddiau, a gweithio o dan adain Cymdeithas y Llysfwytawyr, wrth i’r ddwy uno ym 1969.


  • Gwelwyd twf cyson ond amlwg mewn bwydlysyddiaeth trwy gydol y 1970au a’r 1980au, gyda Chymdeithas y Llysfwytawyr yn arwain y ffordd gyda’i hymgyrchoedd i addysgu’r genedl. Cafodd bwydlysyddiaeth hwb mawr yn ystod y 1980au a’r 1990au wrth i’r byd ddod yn ymwybodol o ddylanwad andwyol y ddynoliaeth ar adnoddau’r ddaear, a’r canlyniadau niweidiol i’r amgylchedd. Dechreuodd llawer i alw am fyd ‘gwyrddach’, gan newid eu hymborth a choleddu bwydlysyddiaeth er mwyn chwarae’u rhan i ddiogelu adnoddau naturiol y blaned.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY