dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
vegetarian picture

BWYDLYSYDDIAETH

Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadau’r llysfwytawyr wedi’u hybu ganrifoedd lawer yn ôl.

RHOI TREFN AR FWYDLYSYDDIAETH

  • Gwelwyd y defnydd cyntaf o’r gair Saesneg "vegetarian" tua 1838, ac fe ddefnyddiwyd y gair hwn (yn hytrach na "Pythagorean") i ddisgrifio ymborth heb gig o dua 1847 ymlaen. Fodd bynnag, yn groes i’r disgwyl nid yw’r gair hwn yn tarddu o’r gair "vegetables", ond o’r gair Lladin "vegetus", sy’n golygu ‘yn fywiog’.


  • A dweud y gwir, roedd 1847 yn flwyddyn allweddol i’r mudiad llysfwytäol, gan mai dyna pryd sefydlwyd Cymdeithas y Llysfwytawyr ­ y sefydliad ffurfiol cyntaf i gynrychioli lles y bobl a wrthodai gig. Arweiniodd hwn at lansiad y cylchgrawn "The Vegetarian Messenger" gan lysfwytawyr yn Llundain ym 1849. Roedd gan y newyddiadur misol gylchrediad o 5000 o gopïau, a’i fwriad oedd lledaenu egwyddorion y llysfwytawyr ledled y brifddinas.


  • Ym y 1850au fe ffurfiwyd nifer o ganghennau yn gysylltiedig â Chymdeithas y Llysfwytawyr ac, ym 1888, torrodd rhai yn rhydd o’r prif gorff, gan sefydlu Cymdeithas Llysfwytäol Llundain. Fe ddaeth y ddau sefydliad yn elynion mawr wrth i’r ddau ffynnu o gwmpas troad y ganrif: cyfnod pan oedd iechyd cyhoeddus yn wael, a thlodi a marwolaeth babanod yn rhemp. Ar ben hynny, fe gododd diddordeb mewn bwydlysyddiaeth ar draws y byd, gan roi hwb i nifer o fudiadau newydd ac fel canlyniad fe ffurfiwyd Undeb Rhyngwladol y Llysfwytawyr ym 1908.


  • Danfonodd Cymdeithas y Llysfwytawyr becynnau bwyd at y cymunedau glofaol a ddioddefodd o dlodi erchyll yn ystod Streic Gyffredinol 1926. Bu cysylltiad rhwng bwydlysyddiaeth â mudiadau dyngarol byth ers i’r cysyniad ennill tir. Mae’n nodedig fod Mahatma Ghandi, pleidiwr amlwg dyngarwch, yn aelod ffyddlon a gweithgar o Gymdeithas Llysfwytäol Llundain.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY