
BWYDLYSYDDIAETH
Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadaur llysfwytawyr wediu hybu ganrifoedd lawer yn ôl.
YNGLYN Â BWYDLYSYDDIAETH
GWREIDDIAU BWYDLYSYGGIAETH
- Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadaur llysfwytawyr wediu hybu ganrifoedd lawer yn ôl. Mor gynnar a 3200 Cyn Crist, roedd sectau crefyddol yn yr Aifft yn gwrthod bwyta cig, tra bod llawer o grefyddaur Dwyrain, er enghraifft Hindwaeth, yn ymwrthod â bwyta cig fel rhan annatod ou hathroniaeth o wrthod trais a pharchu pob anifail byw.
- Mae Pythagoras, yr athronydd a mathemategydd o wlad Groeg a oedd yn byw tua diwedd y 6ed Canrif CC, wedi cael yr enw o fod y llysfwytäwr amlwg cyntaf mewn hanes. Roedd ei gredo personol yn peri osgoi bwyta cig anifail a oedd wedii ladd, gan iddo gredu bod lladd creadur byw ac yna ei fwyta yn llygru enaid y dyn â chreulondeb.
- Ar ben hynny, roedd moesoldeb athroniaeth Pythagoras yn awgrymu cyfreithiau eang i wahardd lladd unrhyw greadur byw, aberthu anifeiliaid, hela ac, wrth gwrs, bwyta cig. Yn ogystal â gweld bwydlysyddiaeth fel yr allwedd i ddynion gyd-fyw yn heddychlon, fe welodd Pythagoras fanteision i iechyd pobl wrth ymwrthod â chig.
- Roedd llawer o athronwyr Groegaidd yr hen fyd dynion fel Socrates, Aristotle a Phlato yn cyd-fynd â syniadau Pythagoras am greulondeb i anifeiliaid. Yn anffodus, nid oedd bwydlysyddiaeth yn derbyn yr un parch o fewn ir ymerodraeth Rufeinig. Roedd eu diwylliant hwythau yn coleddu lladd anifeiliaid ac roedd yn rhan ou chwaraeon au difyrrwch ysblennydd, trau bod tunelli o gig yn cael eu bwyta yn eu gwleddoedd godidog a hynny yn rheolaidd!
- Roedd y Rhufeiniaid yn edrych ar fwydlysyddiaeth fel dysgeidiaeth danseiliol ac felly roedd yn rhaid i ddilynwyr Pythagoras gadwn dawel am eu hymborth rhag iddynt gael eu herlyn gan yr awdurdodau neu gyd-ddinasyddion. Er gwaethaf hyn, fe lwyddodd bwydlysyddiaeth i ledaenu drwyr ymerodraeth Rufeinig, wrth i ddylanwadau athronyddol a chrefyddol dreiddio trwyr diwylliant.
