
BWYDLYSYDDIAETH
Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadaur llysfwytawyr wediu hybu ganrifoedd lawer yn ôl.
YNGLYN Â BWYDLYSYDDIAETH
YN YSTYRIED TROI'N LLYSFWYTÄWR?
- Yn ôl Cymdeithas y Llysfwytawyr, y diffiniad o lysfwytäwr yw "rhywun nad ywn bwyta pysgod, cig, nac adar" ac sydd hefyd yn osgoi isgynhyrchion anifeiliaid megis gelatin a cheuled anifail, sydd yn bresennol mewn caws. Gall llysfwytawyr fwyta bron popeth arall, sef ffrwythau, llysiau, cnau, grawn, ffa a hadau.
- Nid yw pob llysfwytäwr yn bwyta wyau buarth na chynnyrch llaeth, ac felly ceir y dosbarthiadau canlynol i ddynodir mathau gwahanol o ymborth llysfwytäol :-
Wyau-Llaethlysfwytäwr (Lacto-ovo-vegetarian):
Y diet mwyaf cyffredin ymysg cigymwrthodwyr, lle bwyteir wyau buarth a chynnyrch llaeth.
Llaethlysfwytäwr (Lacto-vegetarian):
Dim wyau yn y diet, ond ceir cynnyrch llaeth.
Wyau-Llysfwytäwr (Ovo-vegetarian):
Dim cynnyrch llaeth yn y diet, ond bwyteir wyau.
Fegan (Vegan):
Nid ywr diet hwn yn caniatáu bwyta cynnyrch llaeth, wyau, nac unrhyw gynnyrch arall syn deillio o anifeiliaid na physgod. - Maer penderfyniad i droin gigwrthodwr / gigwrthodwraig yn galw am ymchwil fanwl, er mwyn i chi farnu pa ddiet syn fwyaf addas i chi, ac i sylweddoli pa fwydydd syn iawn, a pha rai syn waharddedig. Hefyd, mae pryder fod llysfwytawyr yn anwybyddu rhai maetholion angenrheidiol syn bresennol yn ymborth y sawl syn bwyta cig.
- Felly maen bwysig fod pob cigwrthodwr yn sicrhau bod eu diet yn cynnwys digon o brotein, fitamin B12, haearn, calsiwm a sinc, er mwyn cadwn iach. Os ydych yn ystyried troi at ddiet llysfwytäol a bod gennych unrhyw amheuon ynglyn âch iechyd, gallwch siarad âch meddyg teulu neuch dietegydd i gael y cyngor priodol.
