
BWYDLYSYDDIAETH
Efallai fod pobl yn meddwl mai tuedd diweddar yw bwydlysyddiaeth, ond y gwirionedd yw bod syniadaur llysfwytawyr wediu hybu ganrifoedd lawer yn ôl.
YNGLYN Â BWYDLYSYDDIAETH
BWYDLYSYDDIAETH HEDDIW
- Heblaw am yr agweddau amgylcheddol, maer ofnau syn gysylltiedig âr diwydiant cig (e.e. BSE, listeria, clwyf traed-a-genau, a salmonela) wedi peri i bobl ystyried yr hyn maent yn ei fwyta. Mae llawer o bobl yn y Gorllewin wedi penderfynu troin llysfwytawyr oherwydd ei fod yn ddewis mwy iach a diogel. Yn wir, maer sylw ar fywn iach yn fwy amlwg nawr nag erioed, a dywedir ein bod yn bwyta llai o gig nag erioed, wrth ir gwerthiant o gig barhau i ddisgyn.
- Y wlad sydd âr nifer fwyaf o lysfwytawyr yw India - diolch i oruchafiaeth y crefyddau Hindw a Bwdaeth. Dywedir bod o gwmpas 4 miliwn o lysfwytawyr yn y Deyrnas Unedig ond, yn ôl arolwg a wnaethpwyd gan Asiantaeth Safonau Bwyd ym 2002, dim ond 4% o gartrefi yng Nghymru syn cynnwys o leiaf un aelod syn gigwrthodwr.
- Gyda lledaeniad bwydlysyddiaeth, mae diwydiant enfawr wedi tyfu, sydd bellach yn werth sawl miliwn o bunnoedd. Mae tai bwyta, arlwywyr, archfarchnadoedd a gwneuthurwyr bwyd wedi dod yn ymwybodol o faint y farchnad. Gallwch brynu ystod eang o brydau parod, byrgers, selsig, amnewidyn bacwn, pates, llenwadau brechdanau ac yn y blaen, y cyfan wediu dyfeisio er mwyn gwneud y profiad o fwytan llysfwytäol mor bleserus â phosibl.
