dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
veggie picture

BWYDYDD CYMRU

Y mae bwydydd Cymru yn dilyn llawer o’r hen draddodiadau Celtaidd, gan eu bod wedi datblygu i gwrdd â gofynion gwyr a gwragedd a weithiai'n galed.

YNGLYN Â BWYDYDD CYMRU

HANES BWYDYDD CYMRU

  • Y mae bwydydd Cymru yn dilyn llawer o’r hen draddodiadau Celtaidd, gan eu bod wedi datblygu i gwrdd â gofynion gwyr a gwragedd a weithiai'n galed. Roedd bwyd maethlon, digonol yn angenrheidiol i fodloni anghenion gweision fferm, glowyr, gweithwyr chwarel a physgotwyr.


  • Datblygodd traddodiadau coginiol Lloegr o haenau uwch y gymdeithas. Roedd y pantri llawn yn y plasau gwledig, aristocrataidd yn adlewyrchu’r digonedd a’r amrywiaeth bwydydd ar gael. Ar y llaw arall, roedd gwir flas Cymru yn deillio o gefn gwlad llym na roddai ond digon i fodloni.


  • Roedd ucheldir moel Cymru yn sicrhau na fedrai ond ychydig rawn dyfu, heblaw ceirch. Oherwydd hynny, fel y gwledydd Celtaidd eraill daeth ceirch yn rhan o brif ymborth, yn un o gynhwysion hanfodol cawl, uwd a chacennau.


  • Yn ôl Cyfreithiau Hywel Dda o’r ddegfed ganrif, yr unig lysiau a dyfid yng Nghymru oedd cennin a bresych (cabets).


  • Hyd nes y datblygwyd y pyllau glo yn y de a’r chwareli yn y gogledd, gwlad amaethyddol oedd Cymru, yn cynnwys llawer o dyddynnod a mân-ddaliadau.


  • Rhai o fwydydd mwyaf traddodiadol Cymru yw cig moch, Bara Lawr, crempog, Bara Brith, a chawl (potes, lobsgóws).


  • Y mae amaethyddiaeth fodern wedi sicrhau fod cig oen Cymru yn cael ei allforio dros y byd, ond yn y gorffennol danteithyn prin oedd i’r Cymry eu hun. Fe’i gweinwyd yn unig ar ddyddiau gwyl ac achlysuron arbennig.


  • Porc oedd y cig a fwytawyd amlaf. Byddai gan bron bob cartref yng nghefn gwlad ac yn y pentrefi glofaol dwlc ar waelod yr ardd, ac mae hyn yn un o nodweddion diwylliannol Cymru. Roedd diwrnod lladd mochyn yn achlysur arbennig ac yn ddefod gyffrous pan fyddai’r cigydd yn cyflawni’r weithred.


  • Roedd cig mochyn yn rhan hanfodol o fwydydd Cymru gan mai dyna sylfaen y pryd traddodiadol a adwaenid fel Cawl. Y mae’r pryd un-crochan hwn yn amrywio o ardal i ardal, ac hyd yn oed o dy i dy. Nid yn unig y dull o’i goginio sy’n amrywio, ond hefyd y ffordd o’i fwyta. Roedd rhai yn ei roi i gyd yn yr un bowlen, tra bod eraill yn gweini’r sudd yn gyntaf cyn gweini’r cig a’r llysiau.


  • Y mae cig y Fuwch Ddu Gymreig bron mor boblogaidd â chig oen Cymru erbyn hyn, oherwydd cynnydd yn y farchnad allforio a diddordeb cynyddol mewn rhannau eraill o Brydain.


  • Bu’r diwydiant pysgota ar hyd Arfordir y Gorllewin yn dra phwysig (ac y mae o hyd, i raddau), gydag ysgadan a mecryll yn dra phoblogaidd. Bu digonedd o wystrys ar un adeg yng Ngwyr gyda llawer yn cael eu dal ym Mhort Einon, ond yn anffodus, oherwydd gor-bysgota y mae’r danteithfwyd hwn bron â diflannu o’n harfordir.


  • Gwelodd bysgota traddodiadol Cymru greu bad bysgota tra hyblyg ac effeithlon a elwir yn gwrwgl. Roedd llawer o’r cychod bach, crwn, hyn ar afonydd Cymru ar un adeg – cychod na newidiodd eu cysyniad mawr ers y dyddiau Neolithig. Fe allech weld ychydig yn cael eu defnyddio heddiw, ond unwaith eto, y mae gor-bysgota wedi sicrhau eu bod yn ddigon prin.


  • Am gannoedd o flynyddoedd bu gwyr a gwragedd yn casglu cocos ar hyd arfordir Bro Gwyr. Y mae’r pysgod cregyn hyn yn ffynhonnell rad o brotein sy’n dal yn boblogaidd heddiw.


  • At hyn, Penrhyn Gwyr yw un o’r ychydig fannau lle tyfai gwymon bwytadwy a adweinid fel ‘lafwr’. Coginiwyd hwn i wneud "bara lawr" (laverbread) ac fe daenwyd ceirch drosto cyn ei ffrïo mewn saim cig moch.


  • Mae brecwast Cymreig traddodiadol yn cynnwys bara lawr (wedi ei gymysgu â cheirch a’i wneud yn gacennau bach sy’n cael eu ffrïo), wyau, cig moch a chocos. Ceir yma gyfuniad o’r blasau sylfaenol y mae Cymru’n enwog amdanynt.


  • Yn y gorffennol roedd y Cymry’n mwynhau ‘te’ traddodiadol fel mwyniant dyddiol. Unwaith bob wythnos byddai’r mwyafrif o gartrefi’n cynnal sesiynau anferth o bobi er mwyn sicrhau fod yr ystordy bwyd yn llawn. Bara Brith a phicau ar y maen oedd y mwyaf poblogaidd.


  • Tua wyth neu naw o’r gloch bob nos byddai cartrefi Cymraeg yn bwyta eu swper, a oedd yn wahanol iawn i’r prif bryd, ganol dydd, ac yn cynnwys byrbryd ysgafn o eog, sewin neu fadarch gwyllt. Roedd y danteithion tymhorol hyn yn bethau i’w sawru yn hytrach nag yn brydau go iawn.


  • Yn y gorffennol roedd amserau prydau bwyd yn dibynnu ar alwedigaeth prif ddeiliad y ty. Er enghraifft, byddai’r glowyr yn bwyta fel y caniatâi eu patrwm gwaith, tra byddai amserau prydau bwyd y ffermwyr yn amrywio yn ôl y tymhorau a benderfynai pa waith oedd i’w wneud.


  • Yr unig gaws adnabyddus sy’n dod o Gymru yw Caws Caerffili, sydd bellach yn cael ei wneud yn ne orllewin Lloegr, ac nid yng Nghymru. Roedd caws yn cael ei gorddi yn yr iseldiroedd ffrwythlon lle roedd defaid a geifr yn ffynnu.


  • Roedd y "maen" yn offeryn coginio traddodiadol, hynafol a ddefnyddid i wneud amrywiaeth o sgonau, ffroes, cacennau, bara amrywiol, pasteiod a theisennau ceirch. Datblygodd pobi ar y maen yn gelfyddyd ymhlith y Cymry gan na fedrai’r mwyafrif o’r cartrefi fforddio prynu ffwrn. Yn wir, crëwyd ffwrn dros dro drwy droi crochan haearn ben-i-waered dros maen poeth.


  • Nid yw’n ymddangos ein bod ni yng Nghymru yn rhy frwd am ein traddodiad bwydydd, a hynny, yn ôl pob tebyg, oherwydd i’n prydau dyfu allan o’r angen i wneud y gorau o’r cynhwysion oedd wrth law, ac, yn fwy pwysig efallai, i wneud iddyn barhau. Yn hanesyddol, bu’n rhaid i’r Cymry ddygymod ag amserau llai llewyrchus, ac, yn ôl pob tebyg, bu’n rhaid iddynt fwyta’r un prydau yn rhy aml iddynt ymddangos yn arbennig. Fodd bynnag, y mae’r bwydydd fel arfer yn flasus ac yn ychwanegu’n fawr at ein chwaeth fwyta.


  • Y mae amrywiaeth y gegin ryngwladol yn golygu fod Cymru yn gallu cynnig llawer megis cawsiau unigryw, gwinoedd, cig ffres a chynnyrch y môr fydd at bob dant. Y mae hanes cyfoethog amaethyddiaeth a physgota yng Nghymru wedi sicrhau fod y wlad yn allforio peth o gynnyrch gorau’r byd.
PYTIAU BLASUS
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY