dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
picture of Dudley

Dewch i Goginio - Tatws

Yn y rhaglen hon mae Gwilym Euros o Flaenau Ffestiniog yn sôn am ei hoffter o fwydydd â blasau'r Dwyrain Pell ac mae Dudley yn gwneud Porc a gorgimychiaid Fietnamaidd iddo. Llysieuyn yr wythnos yw'r daten ac mae'r garddwr John Thomas o blasdy Rhos y Gilwen yng ngogledd Sir Benfro yn sôn am eu tyfu tra bod y deietegydd Nia Rees Williams yn sôn am eu rhinweddau. Ar gampws Coleg y Drindod yng Nghaerfyrddin mae Dudley yn coginio Penfras mewn cytew coconyt â blasau Thai i'r myfyrwyr; ac yn Llundain mae Llinos Woods, sy'n pastry chef yn siop Peter Jones, yn paratoi Tarten Ffigys. Nôl yng Nghaerdydd mae Dudley a'i sialens wythnosol yn paratoi Cyw iâr menyn a garlleg i Eilir Owen Griffiths yn yr amser mae'n cymeryd i Eilir fynd i'w siop sglodion lleol i nôl ei swper.

RYSEITIAU YR WYTHNOS HON...

RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY