Yn yr ail raglen bydd Dudley yn teithio o Sir Fon i'r Felinheli gan gwrdd a theulu sy'n casglu cocos ar Draeth Coch. Ymhlith y ryseitiau sy'n tynnu dwr o'r dannedd bydd llysywen y mor mewn saws Vermouth, cregyn gleision a chorn carw’r mor, tair rysait syml ar gyfer wystrys a Paella sy'n cynnwys cynnyrch o Sir Fon.