Bydd Dudley yn ymweld â Phen Llyn ar gyfer trydydd cymal ei daith ar hyd glannau Cymru. Yng nghwmni'r bobl leol, bydd yn paratoi malwod y môr, cimwch, gwichiaid a physgod gwyn ar y barbiciw. Bydd e hefyd yn blasu'r gorau o gynnyrch y penrhyn yng Ngŵyl Bysgod Pwllheli.