dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PORC MEWN SAWS MARSALA

PORC MEWN SAWS MARSALA

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 2

CYNHWYSION

450g/1pwys o ffiled o borc cymraeg
150g/5owns o flawd plaen
3 llwy fwrdd o fenyn gymraeg
3 llwy fwrdd o olew olewydd
1 ffenigl - wedi'i sleisio'n fân
1 pupur coch
1 corbwmpen - wedi'i sleisio'n drwchus ar ongl
100ml/3½ owns hylif o win marsala sych
425ml/¾peint o stoc cyw iâr
halen môn
pupur du
DULL
Torrwch y ffiled o borc yn ddarnau trwchus a'u curo'n fflat rhwng haenau o gling ffilm. Gorchuddiwch y darnau porc mewn blawd, pupur a halen. Mewn ffreipan poeth coginiwch y porc mewn menyn. Rhowch i'r ochr a chadwch yn gynnes. Yn yr un badell ychwanegwch ychydig o fenyn (os oes angen) a choginiwch y fennel am ychydig funudau. Ychwanegwch y gwin marsala, cymysgwch cyn ychwanegu ½ peint o stoc - berwch a gadewch i leihau. I rostio'r pupur coch:- torrwch y pupur yn chwarteri, gosodwch mewn powlen a gorchuddiwch gydag olew olewydd. Rhowch o dan gril twym nes i'r croen droi'n ddu. Gorchuddiwch â chling ffilm a gadewch i sefyll. Er mwyn gwneud y croen yn haws i'w dynnu. Coginiwch y courgette mewn menyn wedi'i doddi hyd nes ei fod yn lliw brown golau. Ychwanegwch weddill y stoc, y pupur coch, halen a phupur a gadewch i ffrwtian. Gweinwch y porc ar blatiau cynnes gyda'r courgette, pupur ag ychydig o saws marsala.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY