DULL
Toddwch y menyn a'r olew mewn padell ffrio. Ffriwch y winwns, y moron a'r tatws. Ychwanegwch y sinsir, rhowch dop ar y badell a gadewch i'r llysiau feddalu. Ychwanegwch y bwmpen, ffriwch am ychydig yna ychwanegwch y stoc a'r halen a phupur i flasu. Dewch â'r cyfan i'r berw a gadewch i ffrwtian nes bydd y llysiau wedi eu coginio. Gadewch i'r cawl oeri cyn ei hylifo nes yn llyfn. Gweinwch yn gynnes mewn pwmpen lân gyda'r coriander a'r crème fraiche.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley