DULL
Toddwch y menyn mewn padell ffrio ac ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg.Coginiwch am 3-4 munud. Ychwanegwch y madarch wedi'u sleisio a choginiwch tan eu bod wedi brownio ac wedi lleihau ychydig. Ychwanegwch y paprika a choginiwch am funud cyn ychwanegu'r gwin. Coginiwch tan fod y cyfan wedi lleihau i hanner ei faint gwreiddiol. Ychwanegwch yr hufen a choginiwch am rai munudau cyn ychwanegu halen a phupur os oes angen, ac ychydig o sudd lemwn. Taenwch ychydig o bersli dros y cwbl cyn ei weini gyda reis wedi berwi.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley