DULL
Y crwst
Cymysgwch y blawd a'r siwgr mewn bowlen fawr. Ychwanegwch y menyn a rhwbiwch y cynhwysion tan fod y cwbl fel briwsion. Ychwanegwch y melyn wy ac un llwy fwrdd o ddwr. Cymysgwch yn dda a gwnewch does. Rhowch haenen lynu dros y toes a gadewch i orffwys yn yr oergell am hanner awr.
Llenwad
Pliciwch yr afalau, tynnwch eu calonnau a thorrwch nhw'n ddarnau. Cymysgwch nhw gyda'r cynhwysion eraill mewn bowlen fawr.Rholiwch y crwst i gylch o tua 40cm, a rhowch ar dun pobi. Rhowch y cymysgedd ffrwythau yng nghanol y crwst ac yna codwch yr ochrau a phlygwch dros y ffrwyth fel nad oes modd i'r ffrwyth lithro allan. Taenwch ag ychydig o wy wedi'i guro a choginiwch mewn popty wedi'i gynhesu i wres o 200c/nwy marc 6 am 45-50 munud, yn dibynnu ar eich popty.
Gweinwch gyda hufen neu iogwrt groegaidd.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley