DULL
Toddwch y menyn a choginiwch y winwnsyn nes ei fod yn feddal. Ychwanegwch y seleri a'r brocoli a choginiwch am 3 munud. Trowch y stoc a'r gwin i mewn a dewch ag e i'r berw. Rhowch glawr arno a'i goginio am 20-25 munud nes bod y llysiau wedi coginio. Gadewch iddo oeri am ychydig. Hylifwch y gymysgedd, rhowch yn ôl yn y sosban ac ychwanegwch y llaeth a'r stilton. Twymwch drwyddo eto ac ychwanegwch halen a phupur i'ch tast. Chwisiwch y stilton i mewn a gweinwch wedi'i addurno gyda pherlysiau ffres.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley