dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CYRI CIG OEN

CYRI CIG OEN

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 llwy fwrdd o olew llysiau
1 kg/2 pwys3 owns o gig oen Cymreig - wedi'i dorri'n ddarnau
2 winwnsyn - wedi'i dorri'n ddarnau
6 ewin o arlleg - wedi'u malu
3 cm/1- o sinsir ffres - wedi'i gratio
1 llwy fwrdd o hadau coriander
1 llwy ffwrdd o hadau cwmin
1 llwy ffwrdd o garam masala
1 llwy de o paprika
2 llwy ffwrdd o biwrî tomato
1 pupur gwyrdd - heb hadau, wedi'i dorri'n ddarnau
½ darn o sinamon
1 deilen lawryf
1 chilli goch - heb hadau, wedi'i dorri'n fân
6 tomato eirin - heb hadau, wedi'u chwarteru
sudd ½ lemwn
450 ml/16 owns hylif o ddwr
1 pecyn o coriander ffres
DULL
Twymwch yr olew mewn sosban fawr a browniwch y cig oen bob ochr, gan ychwanegu'r winwnsyn a'r garlleg. Coginiwch am 3-4 munud. Malwch yr hadau coriander, hadau cwmin, garam masala a'r paprika gan ddefnyddio pestl a mortar. Ychwanegwch nhw i'r cymysgedd cig a choginiwch am funud.
Ychwanegwch y piwrî tomato a choginiwch am 5 munud cyn ychwanegu'r pupur, sinamon, deilen lawryf a chilli ffres. Cymysgwch yn dda cyn ychwanegu'r tomatos ffres, lemwn, dwr a halen a phupur. Rhowch gaead ar y sosban a mudferwch am ddwy awr tan fod y cig oen yn dyner. Cyn gweini, taenwch ychydig o coriander ffres dros y cwbl. Gweinwch gyda reis wedi berwi.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY