dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
CAWL TOMATO

CAWL TOMATO

CATEGORI : CAWL

DIGON I : 6

CYNHWYSION

1.8 kg/4 pwys o domatos plwm aeddfed wedi'u torri'n 8
6 sleisen o gig moch- wedi dorri
1.1 litr/2 peint o stoc cyw iâr
50 g/2 owns o fenyn
2 winwnsyn wedi'u torri'n fân
2 foronen wedi'u torri'n fân
2 goes o helogan wedi'u torri'n fân
2 llwy fwrdd o biwrî tomato
1 ewin of arlleg wedi'i dorri'n fân
1 llwy fwrdd o siwgr man
basil ffres wedi'i dorri'n fân
halen a phupur

i weini
2 ddeilen o fasil ffres
1 llwy fwrdd o hufen dwbl i bob person
DULL
Toddwch y menyn ac ychwanegwch y winwns, y cig moch, y moron, y helogan a'r garlleg. Trowch yn dda tra'n coginio am 2-3 munud. Rhowch glawr ar y sosban a'i adael i goginio am 10 munud arall nes bod y llysiau'n feddal. Ychwanegwch y piwrî tomato a'i gymysgu'n dda, yna ychwanegwch y tomatos ffres a rhowch y clawr yn ôl ar ben y sosban a'i goginio am 10 munud arall. Ychwanegwch stoc, y siwgr a'r halen a phupur. Berwch am 1-1 ½ awr o dan glawr. Blaswch cyn ychwanegu mwy o halen a phupur os oes angen. Rhowch y cawl trwy ridyll cyn ei weini gyda'r hufen a'r basil ffres ar ei ben.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY