dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
SAMWN GYDA DRESIN MELYS A THWYM

SAMWN GYDA DRESIN MELYS A THWYM

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I :

CYNHWYSION

4 x 150 g/5 owns o ffiledi o eog ffres
175 g/6 owns o siwgr demerara
275 ml/½ peint o finegr gwin gwyn
½ chilli coch ffres - wedi'i dorri'n fân
½ chilli gwyrdd ffres - wedi'i dorri'n fân
1 lemonwelltyn - wedi'i dorri'n fân a'i socian dros nos mewn 2 llwy fwrdd o win reis
1 pecyn o goriander ffres - wedi'i dorri'n fân
halen a phupur
DULL
Rhowch y siwgr a'r finegr mewn sosban fach dros wres isel. Trowch nes bod y siwgr wedi toddi. Codwch y gwres a berwch y cymysgedd nes ei fod wedi lleihau o drydydd. Ychwanegwch y chillis coch a gwyrdd a choginiwch am rai munudau. Gadewch i oeri. Rhannwch y coriander a'r lemonwellt yn bedwar a rhowch ar y pedwar sgwaryn ffoil gyda'r ffiledi eog ar eu pennau. Ychwanegwch halen a phupur a seliwch ymylon y ffoil i greu parseli. Coginiwch mewn popty twym ar wres o 200°C/Nwy Marc 6 am 7-8 munud. Agorwch y parseli ac arllwyswch ychydig o'r dresin melys a thwym dros y eog cyn ei weini gyda llysiau wedi eu tro-ffrio. Bydd y dresin yn cadw am 7-8 wythnos.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY