dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BYRGYRS CIG EIDION CYMRU A CHWRW

BYRGYRS CIG EIDION CYMRU A CHWRW

CATEGORI : CIG AG OFFAL

DIGON I :

CYNHWYSION

900 g/2 pwys o gig eidion da duon cymreig - wedi'i dorri'n ddarnau
300 ml/½ peint o gwrw cymreig
1 winwnsyn mawr - wedi'i dorri'n fân
3 ewin o arlleg - wedi'u malu
2 llwy fwrdd o bersli ffres - wedi'i dorri'n fân
halen a phupur
1 wy (dewisol ar gyfer rhwymo)
85 g/3 owns o gaws monteerey jack wedi'i gratio
DULL
Arllwyswch y cwrw dros y cig, rhowch gaead drosto a gadewch i fwydo dros nos yn yr oergell. Draeniwch y cwrw a malwch y cig mewn prosesydd bwyd. Rhowch y cig mewn powlen lan ac ychwanegwch y winwnsyn, garlleg, persli, halen a phupur. Cymysgwch y cynhwysion yn dda gyda'ch llaw a rhannwch y cymysgedd yn wyth. Os yw'r cymysgedd yn sych, gellir ychwanegu'r wy i rwymo'r cynhwysion. Siapiwch y byrgyrs a gwnewch bant yn y canol. Rhowch ddwy lwy de o gaws ymhob pant a phlygwch y cig dros y caws. Gwnewch hyn i'r byrgyrs i gyd. Twymwch badell ffrio neu radell a choginiwch y byrgyrs am 15-20 munud.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY