dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
LLEDEN LEFN VERONIQUE

LLEDEN LEFN VERONIQUE

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I : 4

CYNHWYSION

250 ml/9 owns hylif o stoc pysgod
150 ml/¼ peint o win gwyn panteg
4 ffiled o leden lefn - heb groen ac esgyrn (½ darn o leden lefn i bob person)
125 g/4 ½ owns o grawnwin gwyrdd - heb hadau a rhai ar gyfer addurn
142 ml/5 owns hylif o hufen dwbl
10 g/½ owns o fenyn cymreig
10 g/½ owns o flawd plaen
½ llwy fwrdd persli ffres
halen a phupur
DULL
Arllwyswch y stoc pysgod a'r gwin i sosban. Rholiwch y ffiledi pysgod a'u rhoi yn yr hylif. Potsiwch am 8 munud dros wres cymedrol. Tynnwch y pysgod yn ofalus o'r sosban a rhowch ar blât i'w gadw'n gynnes tra'ch bod chi'n paratoi'r saws. Berwch yr hylif sy'n weddill gan ei leihau i hanner ei faint gwreiddiol. Ychwanegwch yr hufen a'i goginio am rai munudau. Cymysgwch y blawd a'r menyn gyda'i gilydd i wneud beurre manie a chwipiwch hwn i'r saws tan ei fod yn dechrau tewhau. Coginiwch am funud neu ddwy cyn ychwanegu'r grawnwin wedi'u haneru a'r persli wedi'i dorri'n fân. Ychwanegwch halen a phupur ac arllwyswch y saws dros y pysgod. Addurnwch â grawnwin.Gweinwch gyda thatws stwnsh.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY