dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BRUSCHETTAS CIG MOCH A SBINAETS

BRUSCHETTAS CIG MOCH A SBINAETS

CATEGORI : CYRSIAU CYNTAF, PRYDAU AR YR OCHR A BYRBRYDAU

DIGON I : 4

CYNHWYSION

12 tafell drwchus o fara ffrengig neu ciabatta
olew olewydd
1 llwy fwrdd olew llysiau
6 sleisen o gig moch - wedi ei fygu (cefn) - wedi'u torri'n ddarnau
½ winwnsyn -wedi'i dorri'n ddarnau
1 ewin o arlleg - wedi'i falu
125 g/4 ½ owns o sbinaets ffres - wedi'i olchi
2 lwy fwrdd hufen dwbl (dewisol)
100 g/3 ½ owns o gaws cheddar - cryf iawn
halen a phupur
DULL
Twymwch yr olew llysiau mewn padell ffrio ac ychwanegwch y cig moch, y winwnsyn a'r garlleg a'u coginio am 5-7 munud. Ychwanegwch y sbinaets a chymysgwch yn dda am 2-3 munud tan fod y dail wedi gwywo. Ychwanegwch yr hufen os ydych yn ei ddefnyddio, ynghyd â halen a phupur. Yn y cyfamser, taenwch ychydig o olew olewydd dros y tafelli bara a'u rhoi ar dun pobi. Griliwch am rai munudau tan eu bod yn euraidd. Rhowch lwyaid neu ddwy o'r cymysgedd cig moch a sbinaets ar y bara ac yna sleisys tenau o'r caws Cymreig. Rhowch o dan gril twym tan fod y caws wedi toddi. Gweinwch ar unwaith.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY