dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PARSELI CYW IÂR GYDA LLYSIAU

PARSELI CYW IÂR GYDA LLYSIAU

CATEGORI : POWLTRI A GÊM

DIGON I : 4

CYNHWYSION

1 llwy fwrdd olew olewydd
25 g/1 owns o fenyn
4 x 140 g/5 owns o frest cyw iâr - heb asgwrn na chroen
175 g/6 owns o foron bach - cyfân neu wedi'u haneru ar eu hyd
2 feipen fach - wedi'u plicio a'u sleisio'n denau neu eu haneru
4 shibwnsyn - wedi'u plicio a'u chwarteru
300 ml/½ peint o win gwyn
450 g/1 pwys o ffa - wedi eu tynnu o'u codau, neu 120 g/4 owns o fadarch wystrys
4 darn taragon ffres
200 ml/7 owns hylif potyn o crème fraiche
tatws newydd - i weini
DULL
Cynheswch y popty i wres o 190°C/Nwy Marc 5/popty ffân 170°C. Twymwch yr olew a hanner y menyn mewn padell ffrio. Ffriwch y cyw iâr am 3-4 munud dros wres uchel gan eu brownio bob ochr; yna rhowch o'r neilltu. Ffriwch y moron, y maip a'r shibwns am 3-4 munud a rhowch o'r neilltu. Ychwanegwch y gwin i'r badell a'i gymysgu gyda'r gweddillion yn y badell, a berwch tan mai dim ond rhyw 5 llwy fwrdd sy'n weddill. Tynnwch o'r gwres ac ychwanegwch y menyn sy'n weddill. Torrwch bedwar cylch 35cm o bapur pobi neu bapur gwrthsaim. Rhannwch y llysiau a'r ffa rhwng y cylchoedd gan roi brest cyw iâr ar bob un. Ychwanegwch y taragon, y gwin a halen a phupur i bob un. Plygwch y papur gan blygu'r ymylon i selio'r cwbl. Rhowch ar dun pobi a'u coginio am 20-25 munud. I weini, agorwch y parseli ac ychwanegwch lwyaid o crème fraiche. Gweinwch gyda thatws newydd.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY