DULL
Toddwch y menyn mewn sosban fawr, yna ffriwch y winwns ar dymheredd isel i'w meddalu. Ychwanegwch y seleri a'r tatws a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch halen a phupur yn ôl eich chwaeth. Ychwanegwch y stoc a dewch a'r cyfân i'r berw. Rhowch glawr ar y cael a'i goginio am 45 munud nes bod y tatws a'r seleri'n feddal. Ychwanegwch y cennin a gadewch iddo fudferwi am 10 munud. Tynnwch oddi ar y gwres ac ychwanegwch y persli a hanner yr hufen a'i droi'n dda. Gweinwch mewn powlenni cawl cynnes , gan dywallt rhywfaint o'r hufen sydd ar ôl dros wyneb y cawl.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley