dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
TARTE NORMANDE

TARTE NORMANDE

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

pecyn o does pwff
50g/1¾ owns o siwgr mân
2 afalau - wedi'u torri'n giwbiau
calvados
2 wy
100g/3½ owns o fenyn ddi-halen
100g/3½ owns o siwgr mân
100ml/3½ owns hylif o hufen dwbl
100ml/3½ owns hylif o laeth
rinflas fânila
jam bricyll
DULL
Rholiwch y toes yn weddol denau. Defnyddiwch dop sosban i dorri siâp crwn, brwsiwch wy ar hyd ymyl y toes a phlygwch yr ochrau i fewn i greu wal fach o amgylch y toes. Gyda chyllell, priciwch y toes a rhowch ddarn o ffoil arno i'w rhwystro rhag codi gormod yn y ffwrn. Coginiwch hwn am 10 munud ar wres 180°C. Toddwch 100g o siwgr mân ac ychwanegwch 100g o fenyn ddi-halen. Coginiwch y cyfân i greu caramel golau yna pliciwch a thorrwch yr afalau yn ddarnau bach sgwâr a'u coginio yn y caramel am 10 munud cyn ychwanegu Calvados a'i gynhesu uwchben fflam i waredu'r alcohol. Mewn powlen lân, cymysgwch 2 wy gyda 50g siwgr mân a 100ml o laeth a diferyn o rinflas fânila i wneud cwstard. Brwsiwch haenen o'r jam bricyll ar waelod y toes ac ychwanegwch y gymysgedd afal i'r darten. I orffen, arllwyswch y cwstard i fewn i'r darten gan ofalu nad yw yn rhedeg dros yr ochrau, a'u pobi am 10 munud arall yn y ffwrn i goginio'r cwstard.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY