DULL
Blingwch y gwningen a thynnwch yr esgyrn fel bod dim ond y cig ar ôl. Rhowch yr esgyrn I un ochr am y tro. Torrwch gig y gwningen a'r cig moch nes eu mod yn fân fel briwgig, ychwanegwch y winwnsyn a'r garlleg sydd wedi'u malu'n fân a'u cymysgu'n dda. Ychwanegwch ychydig o halen, pupur, persli a binsied o berlysiau Provence - cymysgwch y cyfân yn dda. Gorddiwch ochrau a gwaelod y ddysgl terîn hefo haenen denau o saim bol cig moch a llenwch y ddysgl â'r gymysgedd. Gwnewch ddau dwll yn y terîn a'i lenwi â Calvados. Torrwch stribedi tenau o weddillion y saim bol cig moch a'i roi ar ben y terîn a chreuwch patrwm. Rhowch gaead ar y terîn a seliwch yr ochrau â haenen denau o gymysgedd dwr a blawd. Rhowch y terîn yn y popty a'i goginio am 2 awr mewn bain-marie'. Rhowch esgyrn y gwningen mewn sosban fawr. Gorchuddiwch â dwr wedi ei halltu a'i ferwi am 40 munud. Tynnwch yr esgyrn allan a gadewch y ddwr i leihau fel bod gennych oddeutu 200ml o hylif. Tynnwch y caead oddi ar y terîn ac arllwyswch yr hylif dros y cyfân. Rhowch y cyfân i un ochr i oeri lle bydd yr hylif yn troi'n jeli o amgylch y terîn.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley