DULL
Ffriwch y briwgig mewn olew yr olewydd. Yna ychwanegwch y winwns, moron, seleri, halen a phupur a'u coginio gyda'r caead ar ei ben am tua 5 munud. Ychwanegwch y stoc llysiau, pinsied o deim a chymysgwch yn dda. I orffen, ychwanegwch dalp reit dda o biwri tomato. Mewn sosban arall, toddwch y menyn ac yna ychwanegwch y cennin a'r pupur du a'u coginio yn ysgafn i'w meddalu.
Ar gyfer y Rhosti: Gratiwch tatws ar liain sychu - ychwanegwch binsied go dda o halen ac yna gwasgwch y dwr allan ohonynt.. Llenwch ddysgl gyda llenwad y cig ac yna rhowch haenen o domatos ar ben y cig ac wedyn haenen o'r llenwad cig ar ei ben, ac yna'r cennin. Rhowch datws ar ben y cyfân ac yna rhowch yn y popty ar 180 gradd Selsiws am30-35 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley