dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
BASGED FRANDI A HUFEN IA

BASGED FRANDI A HUFEN IA

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I : 4

CYNHWYSION

125g/4½owns o fenyn
125g/4½owns o siwgr brown ysgafn
125g/4½owns o driog melyn
4 llwy de o sudd lemwn
125g/4½owns o flawd plaen
1 llwy de o sinsir
hufen ia o'ch dewis
ffrwythau'r haf

i addurno
mintys ffres
DULL
Mewn sosban toddwch y menyn, y siwgr a'r triog melyn a chymysgwch y cyfan yn driog llyfn. Mewn bowlen, hidlwch y blawd ac ychwanegwch y sinsir. Ychwanegwch y gymysgedd triog o'r sosban a'i weithio yn ffyrnig i mewn i'r blawd. Ar dun wedi'i iro gosodwch dalpiau o'r gymysgedd a'u pobi yn y ffwrn ar wres o 375 f neu Nwy 5 am 8-10 munud. Siapiwch y cylch brandi dros fowlen a'i phen i lawr i greu siâp basged, a'i gadael i oeri a chaledu. I'w weini, llenwch y fasged frandi â pheli o hufen ia, a'u haddurno â ffrwythau ffres, mint a coulies lliwgar.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY