DULL
Ffriwch y stêc mewn padell ffrio. Rhowch olew yr olewydd mewn padell ffrio arall a ffrio'r tatws. Ychwanegwch yr halen a'r pupur. Tynnwch y stêc o'r badell ffrio a rhowch ar blât. Yna ffriwch y shallots ar gyfer y saws - ychwanegwch win coch ac arhoswch iddo leihau. Ychwanegwch stoc cig eidion a dod â fe i'r berw. Trowch y gwres i lawr ac yna ychwanegwch y mwstard, a'r hufen dwbl i'r saws. Cymysgwch yn dda a gadewch i gynhesu yn ara deg am 2-3 munud ac yn troi o dro i dro. Ffriwch sbigoglys mewn olew yr olewydd am ryw funud gydag ychydig o halen a phupur.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley