DULL
Toes - ychwanegwch y menyn/margarîn a'r halen at y blawd a chymysgwch yn dda. Cymysgwch y burum, y dwr cynnes a'r olew yn dda ac yna ychwanegwch a gweithiwch y cyfân yn dda i mewn i gymysgedd y blawd er mwyn creu'r toes. Gwnewch yn sïwr bod y toes yn llyfn ac yn elastig. Roliwch y toes allan a'i roi ar dun crwn a gwasgwch i greu gwefus fach o gwmpas yr ochr. Yna rhowch haenen o bassata ar y toes, yna'r mozzarella, garlleg, oregano, winwns, madarch, pepperoni a'r basil. Rhowch i gyd yn y ffwrn ar dymheredd 180 gradd selsiws am 10-15 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley