dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PASTA BWYD MOR

PASTA BWYD MOR

CATEGORI : PYSGOD A BWYD MÔR

DIGON I :

CYNHWYSION

1 tun o domatos - wedi'u torri
2 ewyn o arlleg
1 winwnsyn mawr - wedi'i dorri
basil
4 chilli gwyrdd
olew yr olewydd
piwrî tomato
linguine ffres
gorgimychiaid
cregyn gleision
cocos
gwydriad o win gwyn
DULL
Ffriwch y winwns a'r garlleg gyda'i gilydd, yna ychwanegwch y piwrî tomato a'i gymysgu'n dda. Ychwanegwch wydriad o win gwyn a gadewch i'r saws leihau. Ychwanegwch y tun o domatos, yna'r chillis gwyrdd a phupur du. Ychwanegwch y corgimychiaid, y cocos a'r cregyn gleision a chymysgwch yn dda. Yna rhowch gaead ar y sosban er mwyn cadw'r stêm i mewn - fe fydd yn coginio'r cregyn gleisio yn gyflym iawn ac eu cadw'n dyner. Nesa rhowch y linguine ffres mewn dwr berw a'i goginio am 4 munud. Ar gyfer addurno, rhowch orchudd o flawd plaen dros y corgimychiaid a'u coginio mewn olew poeth, yr un broses gyda'r cocos a'u ffrio nes yn grimp. I orffen y pryd, cynheswch ddyrned o gocos ffres yn y saws, hidlwch y pasta a chymysgwch y cyfân mewn powlen fawr ac ychwanegwch gawod o fasil ffres.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY