DULL
Ffriwch y winwns mewn padell ffrio, gan ychwanegu'r cnau a'u brownio. Ychwanegwch y sbeis cymysg a'r cig oen, a'u frownio. Yna ychwanegwch y syltanas, croen y leim, persli ffres a coriander.
Tatws stwnsh - Curwch y wy, blawd corn a'r halen - ei gymysgu'n dda ac yna roi ar ben y tatws. Ychwanegwch y briwsion bara a chymysgwch gyda llaw - gwnewch beli bach o'r gymysgedd.
Yna llenwch y parsel tatws gyda'r gymysgedd cig, gwnewch yn sïwr fod y parsel wedi'i selio'n iawn cyn ei goginio mewn saim am ryw 4-5 munud.
DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley