dudley banner

ENGLISH

CHWILIAD CHWIM   CHWILIO
special features recipes Gwir Flas
PAVLOVA FFRWYTHAU MEDDAL

PAVLOVA FFRWYTHAU MEDDAL

CATEGORI : PWDIN A MELYSION

DIGON I :

CYNHWYSION

1¼ llwy de/8ml o flawd corn
1¼ llwy de/8ml o finegr gwyn
1¼ llwy de/8ml o rinflas fânila
4 gwynwy
225g/8 owns o siwgr mân
300ml/½ peint o hufen dwbl
6 granadillas
mefus
grand marnier
DULL
Curwch y gwynwy nes yn gadarn. Fesul tipyn, ychwanegwch y siwgr mân at y gymysgedd a'u curo'n dda. Cymysgwch finegr gwyn, y fânila a'r blawd corn gyda'i gilydd a'u harllwys I'r bowlen a'u cymysgu'n dda. Taenwch y gymysgedd i mewn i dun sydd wedi ei lenio â phapur pobi a'i goginio am ryw 45 munud ar wres 150 ºC.
Ar gyfer y llenwad: Curwch yr hufen dwbl a thorrwch 6 granadillas a chrafu'r ffrwyth o'r canol a'i gymysgu i mewn i'r hufen dwbl ynghyd â joch reit dda o Grand Marnier. Trowch y meringue yn ofalus allan o'r papur pobi, yna taenwch yr hufen yn drwch dros y meringue cyn eistedd y mefus ffres ar ben y cyfân a'i rowlio'n ofalus.


DUDLEY
Cynhyrchiad Teledu Opus ar gyfer S4C
www.s4c.co.uk/dudley
RHAGLENNI
ARCHIF RHAGLENNI
MWY